Gŵydd droedbinc

rhywogaeth o adar
Gŵydd droedbinc
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Anser
Rhywogaeth: A. brachyrhynchus
Enw deuenwol
A. brachyrhynchus
Baillon, 1834
Anser brachyrhynchus
Anser brachyrhynchus

Mae'r Ŵydd droedbinc (Anser brachyrhynchus) yn ŵydd sy'n nythu yn Yr Ynys Las, Gwlad yr Iâ a Svalbard. Mae'n treulio'r gaeaf yng ngogledd-orllewin Ewrop, yn enwedig Prydain, ond mae'r boblogaeth sy'n nythu yn Svalbard yn treulio'r gaeaf yng Ngwlad Belg, Yr Iseldiroedd a Denmarc.

Un o'r "gwyddau llwyd" yw'r Ŵydd droedbinc, a gall fod yn anodd ei gwahaniaethu oddi wrth rhai o'r gwyddau eraill megis yr Ŵydd lwyd a Gŵydd y llafur. Mae yn wydd ychydig yn llai na'r ddwy yma, ac mae'r coesau a'r traed yn binc yn hytrach nag yn oren. Mae'r pig yn fyr gyda darn pinc yn y canol, ac mae'r gwddf fel rheol yn edrych yn llawer tywyllach na'r corff. Wrth hedfan mae'n dangos darnau o liw llwydlad ar dop yr adenydd fel yr Ŵydd Wyllt.

Nid yw'r Ŵydd droedbinc yn aderyn cyffredin iawn yng Nghymru, ond gellir gweld rhai yn gaeafu yma, yn aml gyda gwyddau eraill.