Svalbard a Jan Mayen
Enw ystadegol ar ddwy ynys yn Norwy yw'r term Svalbard a Jan Mayen (Norwyeg: Svalbard og Jan Mayen) neu Ynysoedd Svalbard a Jan Mayen a ddiffinir gan ISO 3166-1 i gyfeirio at ddwy ran o Norwy sy'n ddau uned weinyddol ar wahân, sef ynysoedd Svalbard a Jan Mayen. Mae hyn wedi arwain at greu'r côd gwlad parth lefel uchaf ar y rhyngrwyd rhyngwladol hefyd, sef .sj, er bod y tiriogaethau hyn yn rhan o Norwy ei hun.
Math | endid tiriogaethol (ystadegol) |
---|---|
Prifddinas | Longyearbyen |
Poblogaeth | 2,905 |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Norwyeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Ewrop |
Sir | Norwy |
Gwlad | Norwy |
Arwynebedd | 61,399 km² |
Cyfesurynnau | 78.635166°N 21.993908°E |
Arian | krone Norwy |
Mae Svalbard yn archipelago yng Nghefnfor yr Arctic sydd dan sofraniaeth lawn Norwy ond sy'n mwynhau statws arbennig a gafodd mewn canlyniad i Gytundeb Svalbard. Mae Jan Mayen yn ynys anghysbell yng Nghefnfor yr Arctig; does ganddi ddim poblogaeth barhaol ac fe'i gweinyddir gan Lywodraethwr Sirol Nordland. Ffaith arall sydd gan Svalbard a Jan Mayen mewn cyffredin yw'r ffaith eu bod yr unig rannau integreiddiol o Norwy sy ddim yn perthyn i siroedd Norwy. Cynigiodd y Cenhedloedd Unedig côd ISO i Svalbard ei hun, ond awdurdodau Norwy a benderfynodd cynnwys Jan Mayen hefyd yn y côd hwnnw.