Svava Jakobsdóttir
Un o Awduron mwyaf blaenllaw Gwlad yr Iâ oedd Svava Jakobsdóttir (4 Hydref 1930 - 21 Chwefror 2004) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ffemenist ac fel gwleidydd. Mae'i gwaith yn cael ddisgrifio fel "brand unigryw o swrealaeth".[1][2][3]
Svava Jakobsdóttir | |
---|---|
Ganwyd | 4 Hydref 1930 Neskaupstaður |
Bu farw | 21 Chwefror 2004 Reykjavík |
Dinasyddiaeth | Gwlad yr Iâ |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor |
Swydd | Aelod o Senedd yr Althing |
Fe'i ganed yn Neskaupstaður, o rhyw fil a hanner o bobl a leolir ar ochr ddwyreiniol yr ynys; bu farw yn y brifddinas, Reykjavík. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Smith, Massachusetts lle graddiodd ym 1952 mewn llenyddiaeth hynafol Gwlad yr Iâ.[4] Yna, astudiodd yng Ngholeg Somerville, Rhydychen.[5]
Roedd ei thad (Hans) Jakob Jónsson yn weinidog Lutheraidd.[6] Rhwng 1935 a 1940 bu ef a'i deulu'n byw yn Wynyard, Saskatchewan, Canada lle bu'n weinidog ar gynulleidfa Gwlad yr Iâ-Canadaidd.[7]
Roedd hi'n aelod o'r Alþingi, Senedd Gwlad yr Iâ, rhwng 1971 a 1979, fel aelod o'r blaid asgell chwith Alþýðubandalagið (Cynghrair y Bobl).[8]
Yr awdur
golyguYmhlith ei gweithiau mwyaf adnabyddus mae'r nofel Gunnlaðar saga ( Saga'rGunnlod ), y nofelig Leigjandinn (Y Lojar) a'r stori fer arswyd "Saga handa börnum" ("Stori i Blant"). Ar wahân i ryddiaith ysgrifennodd hefyd farddoniaeth a dramâu. Enillodd Wobr Henrik Steffens ym 1997.
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Simmonds, J. (1999). Iceland. APA Publications. t. 93. ISBN 9780887291760. Cyrchwyd 2015-11-04.
- ↑ Dyddiad geni: "Svava JAKOBSDOTTIR". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Svava Jakobsdóttir". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Svava JAKOBSDOTTIR". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Svava Jakobsdóttir". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ www.goodreads.com; adalwyd 6 Awst 2019.
- ↑ "Svava Jakobsdóttir (Author of Gunnlaðar saga) |Goodreads profile". goodreads.com. Cyrchwyd 2015-11-04.
- ↑ Torfi Jónsson: Æviskrár samtídarmanna. Oliver Steins, Skuggsjá 1982–1984
- ↑ "Svava Jakobsdottir Biography | Dictionary of Literary Biography". bookrags.com. Cyrchwyd 2015-11-04.
- ↑ Literature.is page on Svava Jakobsdóttir Archifwyd 2009-11-17 yn archive.today