Pryd bwyd poblogaidd o Japan yw swshi[1] (Japaneg: 寿司, , neu ) wedi ei wneud o reis wedi ei goginio a'i orchuddio neu lenwi â chynhwysion eraill, megis pysgod neu teriaci cyw iâr.

Amrywiaeth o nigiri swshi yn barod i'w fwyta.

Yr enw ar bysgod amrwd wedi ei dorri mewn darnau bach yw sashimi, sydd yn wahanol i swshi. Ceir nifer o wahanol fathau o swshi, er enghraifft makizushi (巻き) lle caiff y reis ei lapio gyda gwymon wedi ei sychu (nori), neu inarizushi lle caiff y reis ei osod mewn poced o tofu wedi ei ffrio.[2]

 
Caiff swshi mewn siopau yn Japan eu gwerthu yn aml mewn bocsys plastig.

Mae prif gynhwysion naturiol swshi, pysgod amrwd a reis, yn isel mewn braster, ac yn cynnwys protein, carbohydradau, fitaminau, a mwynau. Ni ellir dweud yr un peth am swshi Gorllewinol sydd yn aml yn cynnwys mayonnaise, afocado, neu gaws hufen.

Mae'r rhan fwyaf o fwyd môr yn isel mewn braster, gyda'r hynny o fraster sydd ynddo yn fraster annirlawn ac felly yn cynnwys lefelau uchel o Omega-3. Gan fod y pysgod mewn swshi yn aml yn amrwd, ni chaiff olew coginio ei ychwanegu i'r broses o'i baratoi.

Cyfeiriadau

golygu
  1. https://geiriaduracademi.org/
  2. Lee, Cherl-Ho; Steinkraus, Keith H; Reilly, P.J. Alan (1993). Fish fermentation technology (yn English). Tokyo: United Nation University Press. OCLC 395550059. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Ionawr 2021. Cyrchwyd 17 Mehefin 2021.CS1 maint: unrecognized language (link)