Sydney Curnow Vosper
Arlunydd Seisnig oedd Sydney Curnow Vosper (29 Hydref 1866 – 10 Gorffennaf 1942). Fe'i ganed yn Stonehouse, ger Plymouth, Dyfnaint yn Lloegr. Ef oedd yn gyfrifol am baentio un o'r lluniau enwocaf Cymru, sef Salem (1908), portread o Siân Owen, Tyn-y-Fawnog yn mynychu Capel Salem ym Mhentre Gwynfryn ger Llanbedr, Gwynedd. Arddangosir y llun heddiw yn Oriel Lady Lever, Port Sunlight, Cilgwri gan mai defnydd gwreiddiol y llun oedd mewn hysbysebion sebon.
Sydney Curnow Vosper | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
29 Hydref 1866 ![]() Stonehouse ![]() |
Bu farw |
10 Gorffennaf 1942 ![]() Shaldon ![]() |
Dinasyddiaeth |
y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
arlunydd, arlunydd ![]() |
Yn 2005 roedd galw i'r llun gael ei ymddangos yng Nghymru ar sail parhaol.[1]
FfynonellauGolygu
- ↑ Call to return Salem painting. BBC (24 Mehefin 2005).