Synagog
Addoldy a ddefnyddir gan gynulleidfa Iddewig yw synagog. Yn aml mae'n gwasanaethu fel canolfan gymuedol i'r gymuned Iddewig leol hefyd. Y prif ddarn o ddodrefn yn yr adeilad yw math o gwpwrdd pren sy'n cynrychioli Arch y Cyfamod, lle cedwir sgroliau sanctaidd y Torah, llyfr sanctaidd Iddewiaeth. Er mwyn cynnal gwasanaeth yn y synagog mae'n rhaid cael deg Iddew gwrywaidd mewn oed yno, sef minyan. Caiff y gair ei ddefnyddio yn ffigurol am addoldai eraill hefyd weithiau. Mae'n well gan rai Iddewon ddefnyddio'r gair Teml yn lle synagog.
Credir fod y synagog yn tarddu o gyfnod alltudiaeth yr Iddewon ym Mabilon yn lle Teml Caersalem. Yng nghyfnod yr Henfyd yr oedd yn fan cyfarfod cyhoeddus i Iddewon lle darllenid y Torah a thrafod ei gynnwys.