James Szlumper
barnwr, peiriannydd, peiriannydd sifil (1834-1926)
(Ailgyfeiriad o Syr James Szlumper)
Peiriannydd sifil o Loegr oedd Syr James Szlumper (29 Ionawr 1834 – 26 Hydref 1926). Ganwyd yn Soho, Llundain. Gweithiodd ar sawl rheilffordd, gan gynnwys y Rheilffordd danddaearol Llundain, Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, Rheilffordd Manceinion ac Aberdaugleddau, Rheilffordd Lynton a Barnstaple, Rheilffordd Y Barri[1] a Rheilffordd Dyffryn Rheidol[2]. Gweithiodd ar reilffyrdd eraill yn Ne Cymru, Sir Drefaldwyn a Dyfnaint[3]
James Szlumper | |
---|---|
Ganwyd | 29 Ionawr 1834 Westminster |
Bu farw | 27 Hydref 1926 |
Galwedigaeth | peiriannydd sifil, barnwr, peiriannydd |
Swydd | Dirprwy Raglaw |
Adnabyddus am | Walnut Tree Viaduct |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Daeth y teulu Szlumper o'r Wlad Pwyl yn wreiddiol. Roedd Alfred Weeks Szlumper a Gilbert Savill Szlumper yn beirianwyr hefyd.[3]
Daeth yn faer Richmond ym 1894 ac Uchel-Syrif Sir Geredigion ym 1898.[1] Bu farw yn Kew.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Gwefan Steamindex
- ↑ Cambrian News 20 Medi 2013
- ↑ 3.0 3.1 "Gwefan ArchivesWales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-08-11.