Syr William Williams, Barwnig 1af Gray's Inn

cyfreithiwr a gwleidydd

Cyfreithiwr a gwleidydd oedd Syr William Williams (163411 Gorffennaf 1700). Roedd yn fab i Emma Williams a Hugh Williams, rheithor Llantrisant a Llanrhyddlad. Cafodd ei addysg yn Ngholeg Iesu Rhydychen ac yn Gray's Inn, cafodd ei dderbyn yno yn 1650, ac fe'i etholwyd ef yn drysorydd yn 1681.

Syr William Williams, Barwnig 1af Gray's Inn
Ganwyd1634 Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
Bu farw11 Gorffennaf 1700 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddLlefarydd Tŷ'r Cyffredin, Cyfreithiwr Cyffredinol dros Gymru a Lloegr, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1661-79 Parliament, Member of the 1679 Parliament, Member of the 1680-81 Parliament, Member of the 1685-87 Parliament, Member of the 1681 Parliament, Member of the 1689-90 Parliament, Member of the 1695-98 Parliament Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolChwigiaid Edit this on Wikidata
TadHugh Williams Edit this on Wikidata
MamEmma Dolben Edit this on Wikidata
PriodMargaret Cyffin Edit this on Wikidata
PlantEmma Williams, John Williams, William Williams Edit this on Wikidata
LlinachTeulu Wynniaid, Rhiwabon Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd yn Ynys Môn. Roedd William Williams yn gofiadur Caer o 1667 hyd at 1684. Priododd aeres a merch Watkin Kyffin, Margaret Kyffin yn 1664, cafwyd 3 o blant, Emma, John ac William. Methodd â chael ei ethol yn aelod seneddol bwrdeisdref Caer yn 1672. Yn 1688, etholwyd ef dros Fiwmares i Senedd y Convention (1689-1690) yno bu'n llunio'r Mesur Iawnderau. Yn Hydref 1689, gwnaethpwyd ef yn Gwnsler y Brenin ac yna yn 1692 yn gyfreithiwr i'r Frenhines.[1]

Ffynonellau

golygu
  • Oxford Dictionary of National Biography;
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1949, 76;
  • Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, vi, 253;
  • J. E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (1914), 18-9;
  • W. R. Williams, The History of the Parliamentary Representation of Wales (1895).

Cyfeiriadau

golygu
  1. "WILLIAMS, Syr, WILLIAM (1634-1700), cyfreithiwr a gwleidyddwr. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-24.