Llys y Sesiwn Fawr
Llys y Sesiwn Fawr (Saesneg: The Court of Great Sessions), y cyfeirir ato yn aml fel Y Sesiwn Fawr, oedd y prif lys barn ar gyfer erlyn troseddau difrifol yng Nghymru rhwng pasio'r ail o'r Deddfau Uno yn 1542 a diddymiad y llys hwnnw yn 1830.
Math | Courts of England and Wales |
---|---|
Gwladwriaeth | Cymru |
- Erthygl am y drefn gyfreithiol yw hon. Am yr ŵyl gerddorol gweler Sesiwn Fawr Dolgellau.
Hanes
golyguSefydlwyd y Sesiwn Fawr dan y Ddeddfau Uno a ymgorfforodd Gymru yn system gyfreithiol Lloegr. Allan o'r 13 o siroedd yng Nghymru, rhai ohonyn nhw wedi'u creu gan y Deddfau Uno ac eraill yn bodoli eisoes, roedd 12 - h.y. y cyfan ac eithrio Sir Fynwy - yn ffurfio cylchdeithiau llys newydd. Y cylchdeithiau hyn oedd Caer (yn cynnwys Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Sir Faldwyn; Gogledd Cymru (Sir Fôn, Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd); Brycheiniog (Sir Frycheiniog, Sir Forgannwg, a Sir Faesyfed); a Chaerfyrddin (Sir Gaerfyrddin, Sir Aberteifi, a Sir Benfro). Ychwanegwyd y Sir Fynwy newydd i gylchdaith Rhydychen dan drefn llysoedd Lloegr.
Roedd y Sesiynau yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn ym mhob sir, yn gweinyddu Cyfraith Lloegr trwy gyfrwng y Saesneg yn unig; nid oedd lle i'r Gymraeg o gwbl dan y drefn newydd er bod trwch poblogaeth Cymru yn uniaith Gymraeg. Allan o'r 217 o farnwyr a eisteddodd ar ei feinciau yng nghwrs 288 mlynedd ei fodolaeth, dim ond 30 ohonynt oedd yn Gymry ac mae'n annhebygol fod mwy na llond llaw o'r rheini - uchelwyr wedi'u Seisnigeiddio - yn medru siarad neu ddeall Cymraeg.[1]
Roedd gan y Sesiwn Fawr yr un grymoedd dan gyfraith sifil â Mainc y Brenin yn Lloegr, ac roedd ei awdurdod cyfreithiol yr un fath a sesiynau (assizes) sirol Lloegr.[2]
Yn ôl yr hanesydd John Davies, rhoddodd triniaeth Sir Fynwy dan y drefn hon y sylfaen i'r gred gyfeiliornus fod y sir honno yn rhan o Loegr yn hytrach na Chymru,[3] cred a welir yn y dywediad hen ffasiwn "Cymru a Sir Fynwy".
Mae cofnodion llysoedd y Sesiwn Fawr - yn Lladin hyd dechrau'r 18g ac yn Saesneg gydag ambell bwt o Gymraeg wedyn - yn ffynhonnell bwysig i ymchwilwyr i hanes cymdeithasol Cymru.
Llyfryddiaeth
golygu- Murray Ll. Chapman (gol.), Criminal proceedings in the Montgomeryshire court of Great Sessions: transcripts of Commonwealth gaol files (Aberystwyth, 1996)
- Glyn Parry, Guide to the records of Great Sessions in Wales (Aberystwyth, 1995)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ A. O. H. Jarman, "Cymru'n rhan o Loegr, 1485-1800", Seiliau Hanesyddol Cenedlaetholdeb Cymru (Caerdydd, 1950), t.97.
- ↑ "Early Modern Resources - "The Court of Great Sessions in Wales"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-07. Cyrchwyd 2008-08-05.
- ↑ John Davies, Hanes Cymru, 1993, ISBN 0-140-28475-3