Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig
Y Goruchaf Lys neu Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig (Saesneg: Supreme Court of the United Kingdom neu the UK Supreme Court neu The Supreme Court neu'r UKSC) yw goruchaf lys y DU gyfan ar gyfer apeliadau cyfraith sifil. Mae ei awdurdod yn gyfyngedig i Gymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon yn unig, heb gynnwys yr Alban, mewn achosion cyfraith droseddol.[1] Agorwyd ef ar y 1af o Hydref 2009, gan gymryd dros swyddogaethau barnwrol Tŷ'r Arglwyddi. Lleolir ef ar Sgwâr y Senedd (Parliament Square) yn Westminster, Llundain.
Math | adran anweinidogol o'r llywodraeth, goruchaf lys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 51.5003°N 0.1281°W |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Goruchaf Lys y DU: Cyflwyniad". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-29. Cyrchwyd 2009-08-29.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Archifwyd 2009-08-29 yn y Peiriant Wayback