Tân Eglwys Abu Sefein
Ar 14 Awst 2022, achoswyd tân gan ddiffyg trydanol yn Eglwys Goptaidd y Merthyr Abu Sefein, Giza, ar gyrion Cairo, yr Aifft. Bu farw 41 o bobl—gan gynnwys 18 o blant ac un o offeiriaid yr eglwys—ac anafwyd o leiaf 55 arall.[1][2] Bu farw'r mwyafrif o bobl o ganlyniad i anadlu mwg.[3]
Enghraifft o'r canlynol | structure fire |
---|---|
Dyddiad | 14 Awst 2022 |
Lladdwyd | 41 |
Lleoliad | Giza |
Gwladwriaeth | Yr Aifft |
Rhanbarth | Giza |
Cychwynnodd y tân yn ystod gwasanaeth yr offeren ar fore'r Sul, tua 9 o'r gloch. Roedd tua 5,000 o Goptiaid wedi ymgynnull i glywed y gwasanaeth.[3] Yn ôl Gweinyddiaeth Gartref yr Aifft, tarddiad y gwreichion a achosodd y tân oedd nam trydanol mewn peiriant tymheru ar lawr cyntaf yr eglwys.[1] Datganodd offeiriad o eglwys gyfagos taw gorlwyth ar generadur yr eglwys, wedi toriad trydan, a wnaeth achosi'r cylched pwt.[2] Yn ôl llygad-dystion, bu rhai pobl yn neidio allan o'r ffenestri ar loriau uchaf yr adeilad er mwyn dianc.[3]
Cyhuddwyd y gwasanaethau brys gan bobl leol o fod yn rhy hwyr i ymateb i'r argyfwng.[1] Ar nos y Sul, cafwyd angladdau mewn dwy eglwys arall yn Giza, ac ymgynulliodd cannoedd o bobl er cof am y meirw.[2] Mynegwyd cydymdeimladau â'r gymuned Goptaidd gan Abdel Fattah el-Sisi, Arlywydd yr Aifft; Ahmed el-Tayeb, Uchel Imam al-Azhar; ac António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.[2] Cyhoeddodd y llywodraeth byddai teuluoedd y meirw yn derbyn iawndal o 100,000 o bunnoedd Eifftaidd.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Anugrah Kumar, "Fire at Coptic Church in Cairo kills at least 41, including priest and children", The Christian Post (15 Awst 2022).
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) "Egyptians mourn 41 killed in Cairo Coptic church fire", Al Jazeera (15 Awst 2022).
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 (Saesneg) "41 killed in Egypt church fire, including many children", Al-Jazeera (14 Awst 2022).