Giza
Dinas ar gyrion Cairo yn yr Aifft yw Giza neu El Giza. Gorwedd ar lan orllewinol Afon Nîl ac mae'n enwog fel safle Pyramidau Giza a'r Sphinx sy'n denu miloedd o dwristiaid. Am ganrifoedd bu'n un o faesdrefi Cairo ond erbyn hyn, er ei bod yn rhan o'r metropolis, mae'n cael ei chyfrif yn ddinas ynddi ei hun.
Math | dinas, cyrchfan i dwristiaid |
---|---|
Poblogaeth | 5,598,402 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Gefeilldref/i | Los Angeles, Istanbul |
Daearyddiaeth | |
Sir | Giza Governorate |
Gwlad | Yr Aifft |
Arwynebedd | 187 km² |
Uwch y môr | 30 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 29.987°N 31.2118°E |
Cod post | (+20) 2 |