Tîm pêl-droed cenedlaethol Estonia

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Estonia (Estoneg: Eesti jalgpallikoondis) yn cynrychioli Estonia yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Estonia (Estoneg: Eesti Jalgpalli Lii) (EJL), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r EJL yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).

Tîm pêl-droed cenedlaethol Estonia
Enghraifft o'r canlynoltîm pêl-droed cenedlaethol Edit this on Wikidata
PerchennogCymdeithas Bêl-droed Estonia Edit this on Wikidata
Enw brodorolEesti jalgpallikoondis Edit this on Wikidata
GwladwriaethEstonia Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.jalgpall.ee/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffurfiwyd yr EJL ym 1921 a daethant yn aelodau o FIFA ym 1923[1] a chystadlu yng Ngemau Olympaidd 1924 ym Mharis. Ym 1940 cafodd Estonia ei oresgyn gan yr Undeb Sofietaidd gyda'r EJL yn cael ei ddiddymu hyd nes 1991 pan lwyddodd Estonia i sicrhau annibyniaeth.

Ym 1992 ymunodd yr EJL ag UEFA[1] a chwarae eu gêm gyntaf fel gwlad annibynnol ers trechu Latfia ar 20 Gorffennaf 1940 gyda gêm gyfartal yn erbyn Slofenia ar 3 Mehefin 1992 [1].

Nid yw Estonia erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd na Phencampwriaeth Ewrop ond yn 2011 llwyddodd Estonia i gyrraedd Gemau Ail Gyfle Ewro 2012[2] cyn colli yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 "Uefa: Estonia history". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-08. Cyrchwyd 2014-12-23. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Uefa: Estonia qualifying history". Unknown parameter |published= ignored (help)
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.