Tîm pêl-droed cenedlaethol Latfia

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Latfia (Latfieg: Valstsvienība) yn cynrychioli Latfia yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Latfia (Latfieg: Latvijas Futbola federācija) (LFF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r LFF yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).

Tîm pêl-droed cenedlaethol Latfia
Enghraifft o'r canlynoltîm pêl-droed cenedlaethol Edit this on Wikidata
Mathtîm pêl-droed cenedlaethol Edit this on Wikidata
PerchennogCymdeithas Bêl-droed Latfia Edit this on Wikidata
Enw brodorolLatvijas futbola izlase Edit this on Wikidata
GwladwriaethLatfia Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.lff.lv Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffurfiwyd yr Undeb Pêl-droed Latfia (Latfieg: Latvijas Futbola Savieniba) (LFS) ym 1921, daethant yn aelodau o FIFA ym 1922[1] a chystadlu yng Ngemau Olympaidd 1924 ym Mharis. Ym 1940 cafodd Latfia ei oresgyn gan yr Undeb Sofietaidd gyda'r LFS yn cael ei ddiddymu hyd nes 1991 pan lwyddodd Latfia i sicrhau annibyniaeth.

Ym 1991 ffurfiwyd yr LFF a chwaraewyd eu gêm gyntaf fel gwlad annibynnol yn erbyn Estonia ar 16 Tachwedd 1991[1]. Cawsant eu derbyn yn aelodau o UEFA ym 1992[1].

Nid yw Latfia erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd ond fe lwyddodd Latfia i gyrraedd Ewro 2004[2].

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Uefa: Latvia history". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-08. Cyrchwyd 2014-12-23. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Uefa: Euro 2004". Unknown parameter |published= ignored (help)
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.