Agor y brif ddewislen

Tîm pêl-droed Cenedlaethol Rwsia (Rwsieg: Национа́льная сбо́рная Росси́и по футбо́лу) sy'n cynrychioli Rwsia yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Undeb Pêl-droed Rwsia (RFU), corff llywodraethol y gamp yn Rwsia. Mae'r RFU yn aelod o gonffederasiwn pêl-droed Ewrop (UEFA).

Mae FIFA ac UEFA yn ystyried tîm cenedlaethol Rwsia fel olynwyr uniongyrchol tîm Yr Undeb Sofietaidd [1][2].

Mae Rwsia wedi cyrraedd Cwpan y Byd ym 1994, 2002 a 2014 a byddent yn cynnal Cwpan y Byd 2018.

CyfeiriadauGolygu