Tŷ Pawb
oriel a chanolfan y celfyddydau yn Wrecsam
Canolfan celfyddydau, marchnad dan do a gofod cymunedol yng nghanol Wrecsam yw Tŷ Pawb. Mae'n darparu arddangosfeydd, ardal fwyd, cyngherddau a digwyddiadau byw, yn ogystal â gofod marchnad ar gyfer masnachwyr lleol.
Math | oriel gelf, oriel gelf, canolfan siopa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wrecsam |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0465°N 2.9909°W |
Cod post | LL13 8BB |
Hanes
golyguAgorwyd Tŷ Pawb yn 2018 ar safle hen Farchnad y Bobl ar Stryt Caer yng nghanol y ddinas, ar ôl ailddatblygiad mawr a enillodd medal aur mewn pensaernïaeth.[1]
Mae gan safle'r ganolfan hanes hir fel marchnad. Cyn ei ailddatblygu yn 2017-2018, roedd Tŷ Pawb yn cael ei adnabod fel Marchnad y Bobl (Saesneg: People's Market). Adeiladwyd Marchnad y Bobl ar ddiwedd yr wythdegau ar ôl dymchwel yr hen Farchnad Lysiau[2] a oedd yn sefyll ar y gyffordd rhwng Stryt y Syfwr â Stryt y Lampint.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Ty Pawb wins gold medal for architecture - Council praised for visionary architectural thinking". Wrexham.com. 5 Awst 2019. Cyrchwyd 9 Mehefin 2022.
- ↑ "Wrexham Markets Overview". Wrexham.com. 29 Mai 2011. Cyrchwyd 9 Mehefin 2022.