Medal Aur mewn Pensaernïaeth

gwobr a gyflwynir yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Gwobr am bensaernïaeth yw'r Fedal Aur mewn Pensaernïaeth (Medal Goffa T. Alwyn Lloyd) a gyflwynir yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Nod y wobr yw tynnu sylw at bwysigrwydd pensaernïaeth yn niwylliant y genedl ac anhrydeddu penseiri sy'n cyrraedd y safonau dylunio uchaf. Rhoddir y wobr i'r pensaer neu benseiri sydd yn gyfrifol am adeiliad neu grŵp o adeiladau a gwblhawyd yng Nghymru yn y tair blynedd blaenorol.[1]:

Rhestr enillwyr golygu

  • 1954-59 – Ataliwyd Y Fedal
  • 1960 – G Grenfell Baines & Hargreaves, Preston am Swyddfeydd H J Heinz, Caerdydd
  • 1961-66 – Ni chynigwyd Y Fedal
  • 1967 – Ataliwyd Y Fedal
  • 1968 – Hird & Brooks, Caerdydd am The Gore (tŷ a phwll nofio), Llantrisant Road, Caerdydd
  • 1969 – Partneriaeth Ormrod, Lerpwl am Adeilad Pilkington Perkin-Elmer, Llanelwy
  • 1970 – Syr Percy Thomas a’i Fab, Caerdydd am Adeilad Ffiseg a Mathemateg, Coleg y Brifysgol, Abertawe
  • 1971 – Partneriaeth Percy Thomas, Caerdydd am y Neuadd Fawr ac Undeb y Myfyrwyr, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth
  • 1972 – T G Jones a J R Evans am Y Berllan Fach (Little Orchard), Dinas Powys
  • 1973 – Ataliwyd Y Fedal
  • 1974 – Partneriaeth Percy Thomas, Caerdydd am Lys Albert Edward, Tywysog Cymru ar gyfer yr Henoed, Porthcawl
  • 1975 – John Sam Williams, Pwllheli am Ysgol Arbennig Y Ffôr, Pwllheli
  • 1976 – Partneriaeth Percy Thomas, Caerdydd am adeilad Parke Davies Pharmaceutical, Pont-y-pŵl
  • 1977 – Partneriaeth Bowen Dann am Hostel, Ffordd Cefndy, Y Rhyl
  • 1978 – Partneriaeth Percy Thomas, Caerdydd am Amugeddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd
  • 1979 – Partneriaeth Percy Thomas, Caerdydd am Adeilad Hugh Owen, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth
  • 1980 – Ataliwyd Y Fedal
  • 1981 – Ataliwyd Y Fedal
  • 1982 – Partneriaeth Bowen Dann Davies, Bae Colwyn am Hafan Elen, Llanrug, Caernarfon
  • 1983 – Partneriaeth Percy Thomas, Caerdydd am Labordai Amersham International, Caerdydd
  • 1984 – Partneriaeth Bowen Dann Davies, Bae Colwyn am Gapel y Groes, Wrecsam
  • 1985 – Partneriaeth Bowen Dann Davies, Bae Colwyn am Ganolfan Gweithgareddau Dŵr Cymru, Plas Menai
  • 1986 – Penseiri Cymdeithas Gwasanaethau Technegol Awdurdod Iechyd Cymru am Ysbyty Cymuned Yr Wyddgrug
  • 1987 – Merfyn Roberts a Dewi-Prys Thomas am Bencadlys Cyngor Gwynedd, Caernarfon
  • 1988 – Penseiri Awdurdod Gwasanaethau Cyffredin Iechyd Cymru am Ysbyty Cymuned Ystradgynlais
  • 1989 – Ataliwyd Y Fedal
  • 1990 – Ataliwyd Y Fedal
  • 1991 – Allen Jenkins a Phil Read, Cyngor Sir De Morgannwg am Neuadd y Sir, Caerdydd
  • 1992 – Ataliwyd Y Fedal
  • 1993 – Penseiri Niall Phillips, Bryste am Fferm Treginnis Isaf, Tyddewi
  • 1994 – Ataliwyd Y Fedal
  • 1995 – Ataliwyd Y Fedal
  • 1996 – Holder Mathias Alcock Ccc, Caerdydd am Adeilad NCM, Caerdydd
  • 1997 – Penseiri PCKO, Middlesex am y Foyer, Abertawe
  • 1998 – Cymdeithion Arup, Llundain am Bencadlys Ymchwil a Datblygu Control Techniques, Y Drenewydd
  • 1999 – Cymdeithion Smith Roberts, Bryste am Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Tyddewi
  • 2000 – Foster a’i Bartneriaid, Llundain am Y Tŷ Gwydr Mawr, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne
  • 2001 – David Lea a Pat Borer, Pen-y-bont Fawr am Adeilad ATEIC, Canolfan y Dechnoleg Amgen, Machynlleth
  • 2002 – Pembroke Design Cyf., Doc Penfro am Ysgol Bro Dewi, Tyddewi
  • 2003 – Penseiri Nicholas Hare, Llundain am Rhif 1. Sgwâr Callaghan, Caerdydd
  • 2004 – Penseiri Powell Dobson, Caerdydd am Ardal yr Hen Fragdy, Caerdydd
  • 2005 – Capita Percy Thomas, Caerdydd am Ganolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
  • 2006 – Partneriaeth Richard Rogers, Llundain am y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd
  • 2007 – Loyn & Co., Penarth am y Water Tower, Cyncoed, Caerdydd
  • 2008 – Purcell Miller Tritton, Bryste am Ganolfan Treftadaeth Y Byd Blaenafon
  • 2009 – Penseiri Ray Hole, Croydon am Hafod Eryri, Copa’r Wyddfa
  • 2010 – Ataliwyd Y Fedal
  • 2011 – Penseiri Ellis Williams, Warringon am Oriel Mostyn, Llandudno
  • 2012 – Penseiri HLM, Caerdydd am Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath, Pen-y-bont
  • 2013 – Penseiri John Pardey am Trewarren, tŷ â phum ystafell wely ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro
  • 2014 – Penseiri Loyn & Co am Stormy Castle, cartref teuluol Cod 5 ym Mro Gŵyr
  • 2015 – Penseiri Loyn & Co am Millbrook House, cartref sy’n arnofio gyda’r elfennau llifo dros ei gilydd yng Nghaerdydd
  • 2016 - Hall + Bednarczyk am Ganolfan Ymwelwyr a Chanolfan Chwaraeon Dŵr, Llandegfedd
  • 2017 - Stride Treglown am Ysgol Bae Baglan, Port Talbot
  • 2018 - KKE Architects am eu gwaith ar Hosbis Dewi Sant
  • 2019 - featherstoneyoung am Tŷ Pawb, Wrecsam
  • 2023 - Nidus Architects am Pen-y-Common ,y Gelli Gandryll[2]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Medal Aur am Bensaernïaeth. Eisteddfod Genedlaethol. Adalwyd ar 3 Awst 2016.
  2. "Nidus Architects yn ennill y Fedal Aur am Bensaernïaeth yn Eisteddfod | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2023-08-05.