Agor y brif ddewislen

Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol

Sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1880 er mwyn cynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ŵyl flynyddol. Dan nawdd y gymdeithas hon cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Merthyr Tudful yn 1881 a chynhaliwyd eisteddfod yn ddifwlch wedyn ar wahan i 1914 a 1940. Daeth gyrfa'r Gymdeithas fel sefydliad i ben yn 1952 pan sefydlwyd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol fel corff llywodraethol yr Eisteddfod.[1]

Daeth y sbardun i sefydlu'r Gymdeithas o bapur ar ddiwygio'r Eisteddfod a ddarllenwyd gan Hugh Owen yng Nghaernarfon yn 1880. Fel canlyniad i ddarlith Hugh Owen, penderfynwyd sefydlu corff newydd - Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol - i lywio'r Eisteddfod a gofynwyd i T. Marchant Williams fod yn ysgrifennydd cyffredinol. Bu cyfarfod pwyllgor yn Amwythig ym Medi 1880 a phendefynwyd trefnu'r cyfarfod cyffredinol cyntaf i baratoi ar gyfer Eisteddfod Merthyr Tudful yn Awst 1881.[2]

Prif waith y Gymdeithas oedd hel arian ar gyfer gwobrau'r Eisteddfod, penderfynu ar leoliad yr Eisteddfod bob blwyddyn a threfnu i gael maes a phabell, cynnal Gorsedd, trefnu rhaglen yr Eisteddfod bob blwyddyn a chyhoeddi Trafodion.[3]

Lluniwyd Rheolau'r Gymdeithas ym Mangor yn 1890. Fel rhan o'r rheolau newydd roedd pob aelod o Orsedd y Beirdd i fod yn aelod llawn o'r Gymdeithas. Ymddengys mai bargen rhwng T. Marchant Williams a Hwfa Môn oedd hyn a bu cryn anfoddlonrwydd ynglŷn â'r cytundeb am flynyddoedd ar ôl hynny.[3]

Dan reolaeth y Gymdeithas, llwyddwyd i gynnal Eisteddfod yn flynyddol, a hynny bob yn ail yn y De a'r Gogledd (ac eithrio 1914 a 1940). Daeth y Gymdeithas i ben yn 1952. Yn 1937 roedd y Gymdeithas a'r Orsedd wedi penderfynu i gyfuno'r ddau gorff i greu Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddwyd cyfansoddiad newydd yn 1952 a sefydlodd Lys yr Eisteddfod Genedlaethol fel corff llywodraethol yr Eisteddfod.[1]

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  2. Melville Richards, 'Eisteddfod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', yn Twf yr Eisteddfod Genedlaethol.
  3. 3.0 3.1 Melville Richards, 'Eisteddfod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg'.

LlyfryddiaethGolygu