Thomas Hudson-Williams

ysgolhaig a chyfieithydd
(Ailgyfeiriad o T Hudson Williams)

Awdur, cyfieithydd ac ysgolhaig oedd Thomas Hudson-Williams (4 Chwefror 187312 Ebrill 1961). Bu'n Athro Groeg am 38 mlynedd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru. Cyfieithodd nifer o lyfrau i'r Gymraeg yn ogystal ag ysgrifennu ar hanes a diwylliant Gwlad Groeg.[1]

Thomas Hudson-Williams
Ganwyd4 Chwefror 1873 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
Bu farw12 Ebrill 1961 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethacademydd Edit this on Wikidata

Gwaith llenyddol

golygu

Ymhlith ei waith mae cyfieithiad o'r Rwseg, Anfarwol werin, nofel yn ymdrin a helyntion Rwsia yn 1941 gan Fasili Grossman a gyhoeddwyd gan Wasg Aberystwyth ym 1945. Cyfieithodd hefyd Pedair Drama Fer o'r Rwseg (gan tdri awdur), a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion ym 1964.

Llyfryddiaeth ddethol

golygu
Ffeithiol
  • Y Groegiaid Gynt (1932). Cyfres y Werin.
  • Atgofion am Gaernarfon (1950)
  • Bannau Llên Pwyl (1953)
Cyfieithiadau
  • Storïau o'r Rwseg (1942)
  • Anfarwol Werin (1945)
  • Cerddi o'r Rwseg (1945)
  • Ar y Weirglodd (1946)
  • Merch y Capten (1947). Pushkin.
  • Rwsalca (1950)
  • Straeon Tad Hanes (1954). Herodotus
  • Y Tadau a'r Plant (1964)
  • Pedair Drama Fer o'r Rwseg (1964)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.