Tafarn y Vulcan, Caerdydd
Gwesty a thafarn hanesyddol roedd Tafarn y Vulcan neu Gwesty'r Vulcan yn ardal Adamsdown o Gaerdydd. Roedd bwriad i'w ddymchwel yn 2009 ond ar ôl ymgyrch gyhoeddus hir i ddiogelu un o dafarndai hynaf Caerdydd, fe roddwyd yr adeilad i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn 2012, lle fyddai'n cael ei ailgodi.
Math | tafarn |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.47856°N 3.16947°W |
Cod post | CF24 2FH |
Hanes
golyguAdeiladwyd Gwesty'r Vulcan yn 1853, yn nyddiau cynnar ehangiad Caerdydd a datblygiad ardal Adamsdown y ddinas, gyda'r cyfeiriad gwreiddiol ar Whitmore Lane, Newtown. Roedd enw'r Vulcan, hen dduw Rhufeinig tân a gwaith metel, a gedwid drwy ei fodolaeth, yn cyfeirio at y gwaith haearn gerllaw.[1]
Roedd y dafarn yn agos i orsaf reilffordd brysur Heol y Frenhines a ddim yn bell o Garchar Caerdydd,[1][2] mewn ardal dosbarth gweithiol i'r de o Heol Casnewydd. Roedd yn dafarn brysur amser cinio ac yn y prynhawn, yn cael ei fynychu gan bobl ddosbarth gweithiol, yn aml o dras Wyddelig.
Ail-adeiladwyd yr adeilad yn sylweddol tua 1900,[3] a fe'i hailwampiwyd tu mewn yn 1914 gan y pensaer lleol F. J. Veall,[3] ac addurnwyd yr adeilad drwyddi gyda theils ceramig brown a gwyrdd.[3][4] Roedd ganddo arddull mewnol hawdd ymarferol a hawdd i'w lanhau, felly ni newidiwyd yr adeilad tu fewn na thu allan heblaw am ambell got o baent. Dros amser, fe ddymchwelwyd ac ail-adeiladwyd yr adeiladau Fictoraidd o'i gwmpas, ddwywaith ar un ochr. Cadwodd y dafarn eu droethleoedd brown ceramig, er bod gweddill y tu fewn wedi ei ddiweddaru yn y 1950au.[2]
Agorwyd Campws yr Atriwm Prifysgol Morgannwg, cartref Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd, dros y ffordd i'r dafarn yn Nhachwedd 2007,[5] a daeth a hyn nifer fawr o gwsmeriaid newydd i'r dafarn.
Pleidleisiwyd y Vulcan yn Dafarn y Flwyddyn Caerdydd gan gangen leol o CAMRA yn 1997 a 2009.[1]
Dymchwel
golyguYn 2009, cadarnhaodd Bragdy Brains eu bod am ddiddymu eu les ar yr adeilad. Roedd gan berchennog a rhydd-ddeiliad y safle, y dyn busnes Derek Rapport, drwy ei gwmni Marcol Asset Management, gynlluniau i ddymchwel yr adeilad ac ail-ddatblygu'r safle gyda defnydd cymysg, yn cynnwys maes parcio aml-lawr. Derbyniwyd y cais cynllunio gan Gyngor Caerdydd.[6]
Cychwynnodd ymgyrch leol i amddiffyn yr adeilad, oedd erbyn hynny y dafarn hynaf i oroesi yng Nghaerdydd. Casglwyd deiseb gyda dros 5,000 o lofnodion,[7] cafwyd pwysau gan wleidyddion a chafwyd cefnogaeth ac ymweliadau i'r dafarn gan enwogion fel James Dean Bradfield o'r Manic Street Preachers a'r actor Rhys Ifans. Fe recordiodd y band o Gaerdydd Future of the Left fideo ar gyfer ei sengl The Hope That House Built ar y safle. Fe wrthododd Cadw wneud yr adeilad yn un rhestredig, am fod yr adeilad wedi ei ail-adeiladu yn sylweddol yn y 1900au, a bod esiamplau gwell yn goroesi mewn llefydd eraill.[3] Fodd bynnag, oherwydd pwysau gan y cyhoedd, cytunodd y rhydd-ddeiliaid i roi estyniad tair mlynedd o'r les i Brains.
Yn gynnar yn 2012, cadarnhaodd Brains y byddent yn terfynu'r les pan ddaeth i ben yn Mawrth 2012, gan ddweud nad oedd y busnes yn ymarferol yn fasnachol.[8] Gyda'r bygythiad i ddymchwel yr adeilad unwaith eto, ond gyda'r ymgyrch leol yn parhau, cytunodd Marcol Asset Management i roi'r adeilad i Amgueddfa Sain Ffagan. Caewyd y dafarn yn Mai 2012, a cychwynnodd yr amgueddfa apêl am luniau, gwrthrychau a hanesion yn perthyn i'r Vulcan.[9]
Ailadeiladu
golyguYn Gorffennaf 2012, cychwynnodd gontractwyr adeiladu a chadwraeth yr Amgueddfa Genedlaethol ddadadeilad y dafarn, bric wrth fric er mwyn ei symud i Sain Ffagan.[10][11] Erbyn Gorffennaf 2013, roedd darnau o'r adeilad yn cael eu storio ar safleoedd yr amgueddfa yn Sain Ffagan a Nantgarw, yn aros am ganiatâd cynllunio i ailgodi'r adeilad.[12] O ystyried cyfyngiadau cyllid amcangyfrifir y bydd y gwaith yn dechrau erbyn 2016,[13] a'r bwriad yw ail-agor y dafarn yn 2019.[14] Y cynllun yn y pen draw yw ail-agor y dafarn gyda thema hanesyddol, gydag actorion yn gweini cyrfau hanesyddol.
Agorwyd y tafarn yn ei lleoliad newydd, o'r diwedd, ym Mai 2024. Byddai'r Vulcan yn gwerthu cwrw wedi’i fragu’n arbennig ar gyfer yr dafarn.[15]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Flynn, Jessica (8 April 2011). "Strange world of pub names". South Wales Echo. Cyrchwyd 21 Hydref 2013.
- ↑ 2.0 2.1 Preston, James (20 March 2012). "Cardiff's oldest pub looks set to close". The Cardiffian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-23. Cyrchwyd 22 Hydref 2013.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 Cadw (17 Mawrth 2009). "Vulcan Public House, Adamsdown, Cardiff (report)" (PDF). National Assembly of Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-10-23. Cyrchwyd 22 Hydref 2013.
- ↑ Historic Welsh Pub Threatened with Demolition, Save Britains Heritage.
- ↑ "Cardiff's Most Exciting Campus Opens". University of Glamorgan. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-22. Cyrchwyd 2008-09-09.
- ↑ Moody, Paul; Turner, Robin (2011). "Cardiff Afterlife". The Search for the Perfect Pub: Looking For the Moon Under Water. Orion Publishing. ISBN 978-1409112679.
- ↑ "Vulcan pub in Cardiff dismantled for St Fagans museum rebuild in 'several years'". BBC Wales. 4 Mai 2012. Cyrchwyd 21 Hydref 2013.
- ↑ "Cardiff's oldest pub The Vulcan set to close". Wales Online. 8 March 2012. Cyrchwyd 22 Hydref 2013.
- ↑ "Historic Cardiff pub to move to St Fagans National History Museum". BBC Wales. 4 Mai 2012. Cyrchwyd 2012-07-15.
- ↑ Tafarn y Vulcan yn cael ei dymchwel a'i symud i Amgueddfa , BBC Cymru Fyw, 16 Gorffennaf 2012.
- ↑ "Photos show dismantling of Cardiff's 'Vulcan' pub". ITV Wales News. 21 August 2012. Cyrchwyd 22 Hydref 2013.
- ↑ "Plans to rebuild Cardiff's Vulcan pub at St Fagans submitted". BBC News. 28 July 2013. Cyrchwyd 22 Hydref 2013.
- ↑ McCarthy, James (28 June 2013). "The Vulcan: Boldly going where no pub has ever gone before". Wales Online. Cyrchwyd 21 Hydref 2013.
- ↑ Historic Vulcan pub to reopen its doors and serve alcohol again – but you'll have to wait until 2019 , WalesOnline, Media Wales, 5 Ebrill 2016.
- ↑ Sain Ffagan: Tafarn Y Vulcan ar fin croesawu ei chwsmeriaid cyntaf mewn degawd , Newyddion S4C, 5 Ebrill 2012.