Newtown, Caerdydd

Ardal a chymuned yng Nghaerdydd oedd Newtown oedd yn cael ei hadnabod fel 'Iwerddon Fach' oherwydd ei phoblogaeth o deuluoedd Gwyddelig. Roedd ei chwe stryd a 200 o dai yn bodoli o ganol y 19g nes iddynt gael eu dymchwel yn 1970. Caiff ei adnabod fel un o "5 trefi Caerdydd", y lleill oedd Tre-Biwt, Crockherbtown, Grangetown a Temperance Town.

Newtown
Mathmaestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4772°N 3.169°W Edit this on Wikidata
Map

Yr ardaloedd daeth i'w adnabod yn hwyrach fel Newton ac Adamsdown oedd yr ardaloedd cyntaf gyda datblygiad sylweddol o dai tu allan i hen ffiniau tref Caerdydd yn rhan cynnar y 19g, a ddaeth yn amlwg iawn erbyn yr 1830au.[1] Yn y blynyddoedd yn dilyn Newyn Mawr Iwerddon yn 1845 dechreuodd cannoedd o deuluoedd Gwyddelig gyrraedd Caerdydd, yn aml yn teithio fel 'balast' ar longau o Cork a Waterford.[2] Roedden nhw fel arfer yn cael eu cartrefu yn Newtown, oedd wedi ei ehangu yn bwrpasol gan Marcwis Biwt i gartrefu gweithwyr oedd yn adeiladu dociau newydd Caerdydd.[3] Yn 1850 fe agorwyd Rheilffordd De Cymru (o Abertawe i Cas-gwent),[4] gan wahanu Adamsdown o Newtown. Daeth Newtown i gynnwys chwe stryd - Stryd Ellen, Gogledd Stryd Williams, Stryd Pendoylan a Maes Pendoylan, Stryd Roland, Stryd Rosemary – yn uniongyrchol i'r de o'r rheilffordd ac i'r de o Stryd Tyndall. Roedd pont droed i gael mynediad dros y rheilffordd.[5]

Daeth Newtown i'w adnabod fel 'Iwerddon Fach'.[2]

Digwyddodd terfysg hiliol cyntaf Caerdydd yn Newtown yn 1848. Roedd Cymro, Thomas Lewis, wedi ei drywanu i farwolaeth gan Wyddel, John Connors. Cymerodd torf o Gymry y ddeddf i'w dwylo eu hun gan fynd i Newtown i ddod o hyd i'r troseddwr. Yn angladd Lewis, roedd yn rhaid i Wyddelod gyda bwyellgeibiau sefyll a gearchod rhag i fwy o drwbl godi.[6]

Erbyn y 1930au roedd Newtown wedi dirywio i gyflwr slym.[7]

Yn y pen draw, yn 1966 fe brynwyd y tai drwy orfodaeth gyda disgwyliad o ail-ddatblygu hen ardal y dociau. Fe ddymchwelwyd y tai yn 1970.[3]

Daeth y safle yn stad fasnach. Fe ddymchwelwyd hwn yn 2010. Roedd disgwyl i'r ardal gael ei ail-ddatblygu gyda defnydd cymysg, i dai newydd a swyddfeydd.[7]

Fe ddymchwelwyd un o weddillion gwreiddiol olaf un Newtown, ty tafarn The Vulcan ar Stryd Adam (yn wreiddiol Whitmore Lane, Newtown),[8] yn 2012 a mae cynlluniau i'w ail-adeiladu yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.[9]

Pobl nodedig

golygu

Gardd goffa

golygu

Yn 1999 rhoddodd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd £10,000 tuag at goffhau cymuned Newtown. Agorwyd Gardd Goffa Newtown ar 20 Mawrth 2005. Mae'n cynnwys cerflun 'gwaith cwlwm' mawr mewn cerrig a wnaed gan yr artist lleol David Mackie.[10]

Cyfeiriadau

golygu
  1. William Rees, Cardiff: A History of the City, The Corporation of the City of Cardiff, 2nd edition (1969), pp. 298–299 (also maps and commentary facing p. 277)
  2. 2.0 2.1 David Morgan, The Cardiff Story: A History of the City from the Earliest Times to the Present, Hackman Ltd, Tonypandy (1991), p.164
  3. 3.0 3.1 History Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback, Newtown Association webpages.
  4. William Rees, Cardiff: A History of the City, The Corporation of the City of Cardiff, 2nd edition (1969), pp. 268–269
  5. Streets Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback, Newtown Association webpages.
  6. David Morgan, The Cardiff Story: A History of the City from the Earliest Times to the Present, Hackman Ltd, Tonypandy (1991), p.179
  7. 7.0 7.1 Stephen Fisk, Cardiff’s Lost Communities Archifwyd 2011-04-15 yn y Peiriant Wayback, WalesOnline, 1 April 2010.
  8. James Preston, "Cardiff's oldest pub looks set to close" Archifwyd 2013-10-23 yn y Peiriant Wayback, The Cardiffian, 20 March 2012.
  9. "Plans to rebuild Cardiff's Vulcan pub at St Fagans submitted", BBC News, 28 July 2013.
  10. Memorial Garden[dolen farw], Newtown Association webpages. Adalwyd 17 January 2012.

Dolenni allanol

golygu