Y Tafod
Y Tafod yw cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae'n cael ei gyhoeddi tua phedair gwaith y flwyddyn, i gyd-daro gyda digwyddiadau pwysig megis Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Eisteddfod yr Urdd, a'r Eisteddfod Genedlaethol.
![]() | |
Enghraifft o: | cylchgrawn, cyfrwng gwleidyddol ![]() |
---|---|
Gwlad | ![]() |
Iaith | Cymraeg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | Hydref 1963 ![]() |
Lleoliad cyhoeddi | Bangor, Tal-y-bont ![]() |
Yr enw gwreiddiol oedd 'Tafod y Ddraig' a gyhoeddwyd yn gyntaf yn Hydref 1963 gan Owain Owain, Bangor. Ef hefyd a ddyluniodd fersiwn gwreiddiol o logo'r gymdeithas i gyd-fynd a'i bapur. Mae'r fersiwn cyntaf hwn i'w weld yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn Chwefror 1969 y gwnaed y fersiwn coch, cyfoes a hynny gan Elwyn Ioan a Robat Gruffudd (gweler Golwg 21 Mehefin 2020).
Roedd gan wasg y Lolfa gysylltiad agos ond anffurfiol â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a bu'n gyfrifol am argraffu ei chylchgrawn misol, Tafod y Ddraig am gyfnod hir. Ymhlith y golygyddion eraill y mae Gareth Miles ac Angharad Tomos.
Y cyfnod cynnar
golyguTrafododd Gwilym Tudur y dyddiau cynnar dan olygyddiaeth Owain Owain yn ei gyfrol Wyt Ti'n Cofio...?:
“ | Ei gymwynas fwyaf fu sefydlu Tafod y Ddraig, y ceir ei hanes rhyfeddol ganddo yn Tân a Daniwyd. Fe dyfodd mewn chwe mis o ddalen ddyblygedig 400 copi i gylchgrawn gloyw â chylchrediad o 2,500, gyda stamp newydd, miniog ar ei holl gynnwys. | ” |
“ | Tafod pigog, taranllyd fu Tafod y Ddraig o dan olygyddiaeth Owain Owain… yn foddion i ysbrydoliaeth a chodi ysbryd pawb o'r aelodau gan gadw eu diddordeb mewn cyfnod pan nad oedd y Gymdeithas [yn genedlaethol] yn weithredol. Cyfamodwyr (1966); gan Emyr Llywelyn.[1] |
” |
Yn ei gyfrol Brwydr y Gymraeg, dywed yr awdur, Geraint Jones:
"Gallai fod yn ddeifiol a chlyfar. Daeth cystadlaethau dinod y cylchgrawn misol yn destun hwyl ac edmygedd." Mae'n rhoi enghreifftiau:
- Y cyntaf i ddod o hyd i hanner cant o fyfyrwyr Cymraeg newydd i'r Coleg ar y Bryn! Gwobr: Swydd Cofrestrydd.'
- Ysgrifennu 'Bangor - Athens of the English Midlands' mewn lliw bricsen coch. Gwobr: Y Prifathro Charles Evans.'
- Diarhebion heddiw: A fo ben, bid gynffon; Gorau addysg, ejiwceshion; Tri cynnig i Gymro - Welsh 01, Welsh 02, Welsh O3; Canmol dy fro a thrig yno - o leiaf unwaith y flwyddyn.'
Rhifynau cynnar
golyguGolygydd: Owain Owain
-
Rhif 1
Hydref 1963 -
Rhif 2
Tachwedd 1963 -
Rhif 3
Rhagfyr 1963. -
Rhif 4
Ionawr 1964 -
Rhif 5
Chwefror 1964 -
Rhif 6
Mawrth 1964 -
Rhif 7
Ebrill 1964 -
Rhif 8
Mai 1964 -
Rhif 9
Mehefin 1964 -
Rhif 10
Gorffennaf 1964
Y tafod: bathodyn y Gymdeithas
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Geraint Jones, Brwydr yr Iaith, 1962-67 (Y Lolfa, 2025), tt.106