Tales from Pleasure Beach
Cyfres ddrama deledu Gymreig yw Tales from Pleasure Beach a ddarlledwyd gyntaf ar BBC Dau rhwng 2 a 16 Awst 2001. Wedi'i hysgrifennu gan y dramodydd Cymreig, Roger Williams, mae'r tair pennod yn cynnwys stori hunangynhwysol wedi eu gosod mewn parc ffair ar lan y môr.
Tales from Pleasure Beach | |
---|---|
Genre | Drama |
Ysgrifennwyd gan | Roger Williams |
Cyfarwyddwyd gan | Edmund Coulthard |
Yn serennu | |
Cyfansoddwr/wyr | The Fratelli Brothers |
Gwlad | Cymru |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Nifer o gyfresi | 1 |
Nifer o benodau | 3 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd/wyr gweithredol | Maggie Russell |
Cynhyrchydd/wyr | Madonna Baptiste |
Lleoliad(au) | Aberafan, Port Talbot, |
Hyd y rhaglen | 40 munud |
Cwmni cynhyrchu | Blast! Films |
Rhyddhau | |
Rhwydwaith gwreiddiol | BBC Two |
Fformat y llun | 16:9 576i |
Fformat y sain | Stereo |
Darlledwyd yn wreiddiol | 2 Awst | – 16 Awst 2001
Derbyniodd y gyfres enwebiad am Wobr BAFTA yng ngategori'r Gyfres Ddrama Orau, ond cafodd ei churo i'r wobr gan Cold Feet.
Wedi'i ffilmio ym Mharc Coney Beach yn Mhorthcawl, ac Aberafan, roedd y gyfres yn cynnwys perfformiadau gan Ruth Jones, Rachel Isaac, Eve Myles a Siwan Morris .
Episodau
golyguRhif | Teitl | Darllediad gyntaf | Gwylwyr [1] |
---|---|---|---|
1 | Laid | 2 Awst 2001 | 2.45 miliwn |
Gyda Joanna Griffiths, Mark Letheren a Brian Hibbard. | |||
2 | Lush | 9 Awst 2001 | 1.94 miliwn |
Gyda Eve Myles, Siwan Morris a Richard Lynch. | |||
3 | Faithless | 16 Awst 2001 | |
Gyda Mark Lewis Jones, Ruth Jones a Steffan Rhodri. |
Derbyniad
golyguDywedodd Esther Addley, wrth adolygu’r ail bennod ar gyfer The Guardian, fod Tales from Pleasure Beach wedi ei “ffilmio'n hyfryd, ei actio’n dda ac yn adfywiol o onest yn ei bortread o foesau rhywiol yfwyr alcopops”, fodd bynnag, roedd hi’n credu ei fod yn “rhuthro trwy gyfres o themau stoc o dan bwysau eu moesoldeb modryb ingoedd".[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Weekly Top 30". BARB. Cyrchwyd 17 Hydref 2019.
- ↑ Addley, Esther (10 August 2001). "TV Review: Beached Wales". The Guardian. Cyrchwyd 5 May 2014.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Tales from Pleasure Beach ar wefan Internet Movie Database