Siwan Morris

actores a aned yn 1976

Actores o Gymru ydy Siwan Morris (ganwyd 7 Chwefror 1976).

Siwan Morris
Ganwyd7 Chwefror 1976 Edit this on Wikidata
Glyn-nedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol Fetropolitan Manceinion Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm Edit this on Wikidata

Fe'i magwyd yn Nglyn-nedd a graddiodd o Brifysgol Fetropolitan Manceinion.

Ymddangosodd ar raglen ddrama Caerdydd ar S4C, a Skins ar E4. Chwaraeodd ran Llinos yn Con Passionate, a Liv Jones yn nrama BBC Wales, Belonging. Parhaodd ei gyrfa yn Llundain gan chwarae sawl rhan gyda'r Royal Shakespeare Company.[1]

Bu'n canlyn yr actor Christopher Eccleston am gyfnod.[2] Mae hefyd wedi gweithio fel cantores gyda'r grŵp pop-electronig Clinigol, ac mae'n ymddangos ar 3 trac ar "Melys" - albwm gyntaf y band.

Ffilmyddiaeth golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1999 Suckerfish Iola
2000 Belonging Liv
2001 Tales from Pleasure Beach Karen (pennod: Lush)
Sister Lullu Novice ffilm fer
Scariest Places on Earth Siwan 2 bennod
2002 A Mind to Kill Ailleen O'connor (pennod: Blood and Water)
The Bill Zoe Jones (pennod: 038)
Casualty Colleen Coleman/Sabine 2 episodes (2002, 2007)
2004 Mine All Mine Maria Vivaldi
2005 Con Passionate Llinos
2006–2009 Caerdydd Ceri Prince 4 pennod
2007–2008 Skins Angela "Angie" 9 pennod
2009 Agatha Christie's Marple Florrie
2010 Whites Beatrice 1 pennod
2012–2014 Wolfblood Ceri 16 pennod
2013 The Machine Lucy
2014 Our Girl Candy 2 bennod
Doctor Who Maebh's Mum (pennod: In the Forest of the Night)
Holby City Holly Singlenton 1 pennod
2015 Y Streic a Fi Gwen Evans
2016 Gwaith/Cartref Dr. Stephanie Murphy 1 pennod
Dark Signal Laurie

Cyfeiriadau golygu

  1. Allen, Gavin (2008-03-03). "A dream role for Skins actress". South Wales Echo. Cyrchwyd 2008-05-12.
  2. Doctor in the house , guardian.co.uk, 20 Mawrth 2005. Cyrchwyd ar 4 Ebrill 2018.

Dolenni allanol golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.