Ruth Jones

actores a aned yn 1966

Actores ac awdures o Gymru yw Ruth Alexandra Elizabeth Jones MBE (ganwyd 22 Medi 1966). Mae'n adnabyddus am gyd-ysgrifennu ac am actio yn y comedi teledu Gavin & Stacey a enillodd nifer o wobrau. Mae hi hefyd yn enwog am ei pherfformiadau yn 'Little Britain' ac yn 'Nighty Night'.

Ruth Jones
FfugenwVanessa Jenkins Edit this on Wikidata
Ganwyd22 Medi 1966 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Man preswylCaerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, sgriptiwr, llenor, awdur teledu, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata

Mae ganddi'r brif rhan yn y gyfres ddrama gomedi Stella ar Sky 1 sy'n cael ei chynhyrchu gan Tidy, y cwmni a gyd-sefydlwyd ganddi yn 2008 gyda'i gŵr, David Peet, sydd yn reolwr-gyfarwyddwr.

Bu'n dysgu Cymraeg yn anffurfiol dros y blynyddoedd ac yn Ionawr 2020 ymddangosodd mewn golygfa ym Mhobol y Cwm fel her sy'n rhan o gyfres Iaith ar Daith ar S4C.[1]

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Ruth Jones ar 22 Medi 1966 ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Aeth Ruth i Ysgol Gyfun Porthcawl. Roedd ei thad yn weithredwr cyfreithiol yn British Steel, Port Talbot, ac roedd ei mam yn seiciatrydd plant.[2] Mae ganddi ddau frawd hŷn a chwaer iau.[3] Magwyd Jones ym Mhorthcawl lle mynychodd yr un ysgol â Rob Brydon. Ar ôl iddi orffen yn yr ysgol, enillodd radd yn Nrama a Saesneg o Brifysgol Warwick ac wedyn aeth hi i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd am flwyddyn.[4]

Ar ôl graddio roedd Jones yn ei chael yn anodd cael gwaith actio, ac ystyriodd hyfforddi fel cyfreithwraig. Fodd bynnag, cafodd ei rhan broffesiynol gyntaf mewn pantomeim yng Nghaerdydd. Cafodd gymorth gan Rob Brydon hefyd, a wahoddodd hi i ymuno â grŵp byrfyfyr yng Nghaerfaddon; roedd y grŵp hefyd yn cynnwys Julia Davis, a fyddai'n ysgrifennu'r gyfres Nighty Night yn ddiweddarach.[4]

I ddechrau, gweithiodd Jones ym myd comedi ar gyfer BBC Cymru Wales, gan ysgrifennu a pherfformio sawl cyfres radio a rhaglen deledu gomedi. Ar ôl gweithio gyda'r RSC a'r Theatr Genedlaethol, bu Jones yn y ffilm boblogaidd East is East, ac yn y bedwaredd gyfres o Fat Friends ar gyfer ITV, lle chwaraeodd ran Kelly. Yn ogystal â hyn, chwaraeodd rôl Myfanwy yn Little Britain ac wedyn fel Linda yn Nighty Night. Yn fwy diweddar, mae Jones wedi ymddangos mewn dwy ddrama gyfnod ar gyfer BBC1, sef Tess of the d'Urbervilles a Little Dorrit.

Mae Jones yn byw yng Nghaerdydd ac mae ganddi ei chwmni cynhyrchu ei hun o'r enw Tidy Productions (Sutherland Productions yn flaenorol). Yn ddiweddar, derbyniodd Tidy Productions ei gomisiwn cyntaf ac mae gan Ruth Jones sioe siarad ar BBC Radio Wales o'r enw Ruth Jones Sunday Brunch. Mae'r rhaglen yn gymysgedd o sgwrsio, gwestai arbennig, a chomedi.

Cydnabyddiaeth a gwobrau

golygu

Enwebwyd Jones am y gwobrau Newydd-ddyfodiad Comedi Benywaidd Gorau a'r Actores Gomedi Teledu Gorau yn y Gwobrau Comedi Prydeinig 2007, gan ennill y categori cyntaf o'r ddau enwebiad.

Perfformiadau a sgriptiau

golygu

Gwaith ffilm

golygu

Gwaith teledu

golygu

Sgriptiau

golygu

Gwaith cynhyrchu

golygu
  • Ar y Tracs - Y Trên i'r Gêm (2010)
  • Ar y Tracs (2009)
  • Gavin & Stacey (Cyfres 1 6 rhaglen BBC3 a BBC2 2007)
  • Gavin & Stacey (Cyfres 2 7 rhaglen BBC3 2008)

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Mae Ruth Jonesyn ymweld â Chwmderi ac yn gofyn am help -yn y Gymraeg (9 Ionawr 2020). Adalwyd ar 24 Ionawr 2020.
  2. Ruth Jones: ‘Gavin & Stacey generated a lot of warmth. It’s good to warm your cockles’ (en) , The Independent, 3 Gorffennaf 2009. Cyrchwyd ar 21 Mai 2012.
  3. Wilson, Sophie. Ruth Jones: I have been fortunate to play parts that have not just been, ‘Oh, you need a fat person’ (en) , The Telegraph, 13 Rhagfyr 2010. Cyrchwyd ar 21 Mai 2012.
  4. 4.0 4.1 What’s occurring with Ruth Jones? (en) , BBC South East Wales, 3 Rhagfyr 2009. Cyrchwyd ar 21 Mai 2012.