Tariandir Canada
Un o dariandiroedd mwyaf y byd yw Tariandir Canada[1] neu'r Darian Lawrensaidd[2] a ganolir ar Fae Hudson ac sy'n estyn dros 8 miliwn km2. Mae'n cynnwys rhannau helaeth o ddwyrain, canolbarth, a gogledd-orllewin Canada, gan ymestyn o'r Llynnoedd Mawr i'r Arctig, a rhannau o'r Ynys Las a thaleithiau Minnesota, Wisconsin, Michigan, ac Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau. Mae'n rhan o Graton Gogledd America neu Lawrensia.
Math | craton, cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Canada |
Uwch y môr | 2,616 metr |
Cyfesurynnau | 52°N 71°W |
Hon yw'r darian fwyaf o garreg gyn-Gambriaidd ar wyneb y Ddaear. Mae'r ardal yn cynnwys cerrig crisialog hynafol a chanddynt hanes hir o godiad, dirwasgiad, ffurfiant mynyddoedd, ac erydiad. Cafwyd effaith sylweddol ar dirwedd Tariandir Canada gan symudiad rhewlifoedd dros y cyfandir yn ystod y cyfnod Pleistosenaidd. Wrth i'r rhewlifoedd symud i'r de, buont yn crafu mantell y tir gan gludo'r rhan fwyaf o garreg hindreuliedig y wyneb tua de a de-orllewin yr ardal, gan ddadorchuddio'r garreg gyn-Gambriaidd ar draws Tariandir Canada. Mae gan y dirwedd hon fryniau creigiog, llyfn sydd â chyfartaledd uchder o 30 metr uwchben lefel y môr, a basnau sydd heddiw yn llawn llynnoedd neu gorsydd. Cafodd gogledd-ddwyrain y dariandir ei godi ac felly mae'r tir yng ngogledd Labrador ac Ynys Baffin yn codi'n fwy nag 1500 metr uwchben lefel y môr.[3]
Cyn dyfodiad yr Ewropeaid, roedd yr ardal yn gartref i'r Algonciaid, helwyr nomadaidd a fu'n llywio'r dyfrffyrdd niferus mewn eu canŵod bedw. Yn hanesyddol bu'r garreg noeth, y pridd prin, y muskeg a'r pryfed yn rhwystr i aneddiad gan fodau dynol yn yr ardal. Pan adeiladwyd rheilffyrdd trwy'r dariandir i gysylltu gorllewin a dwyrain Canada, ffrwydrodd garreg y darian gan ddadorchuddio aur, arian, nicel, cobalt, sinc, copr, a mwyn haearn. Ers hynny mae economi Tariandir Canada yn seiliedig ar fwyngloddio a hefyd y diwydiant mwydion a phapur sy'n manteisio ar goedwigoedd conwydd a phŵer trydan dŵr yr ardal.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [Canadian].
- ↑ Geiriadur yr Academi, [Laurentian].
- ↑ (Saesneg) Canadian Shield. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Hydref 2014.
- ↑ (Saesneg) Canadian Shield. The Canadian Encyclopedia. Adalwyd ar 12 Hydref 2014.