Taron Egerton

actor a aned yn 1989

Actor o Gymru yw Taron David Egerton (ganwyd 10 Tachwedd 1989).[1][2] Daeth i sylw gyntaf am ei ran fel Dennis "Asbo" Severs yn y gyfres deledu Brydeinig The Smoke[3] a Gary "Eggsy" Unwin[4] yn y ffilm Kingsman: The Secret Service.

Taron Egerton
GanwydTaron David Egerton Edit this on Wikidata
10 Tachwedd 1989 Edit this on Wikidata
Penbedw Edit this on Wikidata
Man preswylWest London Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm, canwr, actor llwyfan, actor teledu Edit this on Wikidata
Gwobr/auGolden Globes Edit this on Wikidata

Chwaraeon ran Edward Brittain yn y ffilm ddrama Brydeinig Testament of Youth ac mewn pennod dau ran "The Ramblin' Boy" yn seithfed gyfres Lewis fel Liam Jay. Ymddangosodd yn y ffilm drosedd gyffrous Legend (2015) a serennodd fel Eddie "The Eagle" Edwards yn y ffilm fywgraffiadol Eddie the Eagle (2016). Yn 2019 portreadodd y cerddor Elton John yn y ffilm fywgraffiadol Rocketman lle mae'n canu yr holl ganeuon ei hun.

Bywyd personol ac addysg

golygu

Ganwyd Egerton ym Mhenbedw, Glannau Merswy, Lloegr, i rieni Seisnig o Lerpwl.[5] Roedd ganddo un mamgu o Gymru.[5] Mae ei enw cyntaf yn gamsillafiad o "Taran" a'r awgrym yw bod ei fam wedi gwneud camgymeriad wrth gyfieithu o'r gair Saesneg "thunder".[6] Roedd ei dad yn arfer rhedeg gwely-a-brecwast ac mae ei fam yn gweithio yng ngwasanaethau cymdeithasol.[6] Fe'i magwyd yn wreiddiol yn ardal Penbedw ond fe symudodd i Ynys Môn ac yna Aberystwyth pan oedd yn ddeuddeg; mae Egerton yn ystyried ei hun yn Gymro ac yn siarad Cymraeg.[5][7][8] Fe aeth i Ysgol Gyfun Penglais yn Aberystwyth. Tra yn yr ysgol fe roedd yn aelod o Theatr Ieuenctid Cenedlaethol (Prydain) a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Cafodd ei hyfforddi fel actor yn RADA ac fe raddiodd gyda BA (Anrhydedd) mewn Actio yn 2010.[9] Mae'n canu tenor, yn arbenigo mewn ymladd llwyfan ac mae ei ddiddordebau yn cynnwys llenyddiaeth a theithio.

Yn ystod ei gyfnod yn RADA, fe enillodd wobr 'Perfformiwr Myfyriwr y Flwyddyn' gan Gymdeithas Stephen Sondheim yn 2011, pan oedd yn 21 mlwydd oed.[10]

Cychwynnodd ei yrfa actio yn 2012 gyda rhan fach mewn dwy bennod o Lewis fel Liam Jay.[4] Yn ddiweddarach fe ymunodd â phrif gast y gyfres The Smoke ar Sky1.[3]

Fe wnaeth Egerton chwarae rhan Gary 'Eggsy' Unwin, protégé i Harry Hart (Colin Firth), yn ffilm Matthew Vaughn -  Kingsman: The Secret Service.[4] Roedd yn cyd-serennu yn y ffilm Testament of Youth, wedi seilio ar fywyd Vera Brittain, lle'r oedd Alicia Vikander a Kit Harington yn chwarae'r prif rannau.[11]

Ffilmyddiaeth

golygu
 
Egerton yn Comic-Con Rhyngwladol San-Diegol 2017
Blwyddyn Teitl
Rhan Cyfarwyddwr Nodiadau
2012 Pop Andy Edward Hicks Ffilm fer
2013 Hereafter Tamburlaine Johnny Kenton Ffilm fer
2014 Testament of Youth Edward Brittain James Kent Enwebwyd — Gŵyl Ffilm Llundain am "British Newcomer"
2015 Kingsman: The Secret Service Gary "Eggsy" Unwin Matthew Vaughn Gwobr "Empire" am "Best Male Newcomer"

Enwebwyd - Gwobr BAFTA Am Seren Newydd
Enwebwyd — Gwobr "Teen Choice" am "Choice Movie: Breakout Star"
Enwebwyd - Gwobr Saturn am Actor Gorau

2015 Legend Edward "Mad Teddy" Smith Brian Helgeland
2016 Eddie the Eagle[12] Eddie "The Eagle" Edwards Dexter Fletcher Enwebwyd - Gwobr "Teen Choice" am "Choice Movie Actor: Drama"
Sing Johnny (llais) Christophe Lourdelet & Garth Jennings
2017 Love at First Sight Johnny (llais) Benjamin Le Ster & Matthew Nealson Ffilm fer
Billionaire Boys Club Dean Karny James Cox
Kingsman: The Secret Service 2 Gary "Eggsy" Unwin / Galahad Matthew Vaughn
2018 Robin Hood Otto Bathurst
2019 Rocketman Elton John Dexter Fletcher
2021 Sing 2 Johnny (llais) Garth Jennings
2023 Tetris Henk Rogers Jon S. Baird Ôl-gynhyrchu
Allwedd
Ffilmiau sydd heb eu rhyddhau eto

Teledu

golygu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2013 Lewis Liam Jay 2 bennod
2014 The Smoke Dennis "Asbo" Severs 8 pennod
2018 Watership Down El-Ahrairah (llais) Cyfres fer
2019 Moominvalley Moomintroll (llais) Prif ran
2019 The Dark Crystal: Age of Resistance Rian (llais) Prif ran
2022 Black Bird Jimmy Keene Cyfres fer

Theatr

golygu
Blwyddyn Teitl Rhan Theatr
2005 Oliver! The Artful Dodger Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
2012 The Last of the Hausmanns Danny Royal National Theatre
2013 No Quarter Tommy Royal Court Theatre
2022 Cock M Ambassadors Theatre

Fideo cerddoriaeth

golygu
Blwyddyn Artist Cân Albwm
2015 Lazy Habits "The Breach" The Atrocity Exhibition

Cyfeiriadau

golygu
  1. ""Meet Taron Egerton: 12 Things to Know About the 'Kingsman' Breakout"". Yahoo Movies. Cyrchwyd 16 Ebrill 2015.
  2. Owens, Dave (4 Ionawr 2015). "'A star is born' – Welsh actor Taron Egerton receives the seal of approval from Hollywood bible Variety". Wales Online. Cyrchwyd 6 Medi 2015.
  3. 3.0 3.1 Howell, Jordan (12 April 2013). "Jamie Bamber, Jodie Whittaker for Sky1 drama 'The Smoke'". imediamonkey.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-21. Cyrchwyd 1 Chwefror 2014.
  4. 4.0 4.1 4.2 Kroll, Justin (25 Gorffennaf 2013). "Matthew Vaughn Eyes Newcomer Taron Egerton for 'Secret Service'". variety.com. Cyrchwyd 26 January 2014.
  5. 5.0 5.1 5.2 "Taron Egerton on The Jonathan Ross Show, said starting at 0:52". youtube.com. 25 Ionawr 2015.
  6. 6.0 6.1 "Meet Taron Egerton: 12 Things to Know About the 'Kingsman' Breakout". yahoo.com. 13 Chwefror 2015.
  7. "Egerton's bio as of December 24, 2014".
  8. MR PORTER. "Mr Taron Egerton". Mr Taron Egerton - The Look - The Journal - Issue 199 - 13 January 2015 - MR PORTER.
  9. "Taron Egerton, UK Stars of Tomorrow 2014". screendaily.com.
  10. Stephen Sondeim Society - Student Performer of the Year; Adalwyd 2015-12-11
  11. Ge, Linda (13 Chwefror 2014). "Taron Egerton, Colin Morgan and Alexandra Roach Join Alicia Vikander in 'Testament of Youth'". upandcomers.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-17. Cyrchwyd 16 Mawrth 2014.
  12. "The Eddie The Eagle Movie Will Be "Breaking Away Meets Slap Shot"... - Matthew Vaughn Kingsman Spoiler Podcast: Ten Things We Learned - Features - Empire". empireonline.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2015-12-11.

Dolenni allanol

golygu