Tea Cosy Pete
Trempyn a drigai yn ninas Abertawe oedd Brian Burford (1949 - 26 Ionawr 2015)[1] Cawsai ei adnabod orau o dan ei ffugenw Tea Cosy Pete am fod yr het a wisgai'n debyg i orchudd tebot. Roedd yn gymeriad cyfarwydd iawn i drigolion y ddinas a phan fu farw, codwyd dros £3,000 er mwyn cael cofeb iddo yn y ddinas.
Tea Cosy Pete | |
---|---|
Ffugenw | Tea Cosy Pete |
Ganwyd | 1949 Caerfaddon |
Bu farw | 26 Ionawr 2015 Ysbyty Treforus, Abertawe |
Man preswyl | Abertawe |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | trempyn |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Brian yng Nghaerfaddon ond symudodd i Abertawe pan oedd yn ei arddegau.[2]. Mynychodd Ysgol Ramadeg Dinefwr yng nghanol y ddinas yn yr un cyfnod a chyn-Archesgob Caergaint, y Dr. Rowan Williams.
Honnir iddo fyw bywyd anghonfensiynol pan gafodd ei wrthod o Brifysgol Rhydychen ac wedi marwolaeth ei frawd. Treuliodd 30 mlynedd yn byw ar strydoedd Abertawe.
Marwolaeth
golyguYn Sgwar y Castell yng nghanol y ddinas ar 26 Ionawr 2015, dioddefodd Brian stroc. Cafodd ei ruthro i Ysbyty Treforys lle bu farw'n ddiweddarach.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Tea Cosy Pete memorial fund - how should we spend the money?. South Wales Evening Post (6). Adalwyd ar 14 Chwefror 2015.
- ↑ (Saesneg) Mullin, Gemma (13). Revealed: Gentleman tramp known as 'Tea Cosy Pete' who walked 12 miles to return a wallet with £300 in it was a childhood friend of Archbishop Rowan Williams before his life fell apart when he was rejected from Oxford. Daily Mail. Adalwyd ar 14 Chwefror 2015.