Rowan Williams
Esgob, diwynydd a bardd o Gymru yw Dr Rowan Douglas Williams, Arglwydd Williams o Ystumllwynarth (ganwyd 14 Mehefin 1950). Roedd yn Archesgob Caergaint rhwng Rhagfyr 2002 a Rhagfyr 2012.
Rowan Williams | |
---|---|
Ganwyd | Rowan Douglas Williams 14 Mehefin 1950 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | diwinydd, gwleidydd, athro cadeiriol, offeiriad Anglicanaidd, bardd, archesgob |
Swydd | Archesgob Caergaint, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, beirniad Gwobr Booker, Archesgob Cymru, Bishop of Monmouth, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Cyflogwr | |
Priod | Jane Williams |
Plant | Rhiannon Williams, Pip Williams |
Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig, Urdd Cyfeillgarwch, Cadwen Frenhinol Victoria, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Medal y Llywydd, prix Giles, Order of Bethlehem |
llofnod | |
Fe'i ganwyd yn Abertawe, yn fab i deulu Cymraeg. Cafodd ei addysg yn Ysgol Dinefwr, Abertawe, yng Ngoleg Crist, Caergrawnt, a Choleg Eglwys Crist a Coleg Wadham, Rhydychen, lle y cafodd ei ddoethuriaeth. Bu'n dysgu diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt.
Daeth yn Esgob Mynwy yn 1991, ac yn Archesgob Cymru yn 1999. Yn 2002 cyhoeddwyd ei fod i ddilyn George Carey fel Archesgob Caergaint, yn Eglwys Loegr, ac felly yn arweinydd y Gymuned Anglicanaidd fyd-eang, er yn dechnegol, nid oedd yn aelod o Eglwys Loegr, gan fod yr Eglwys yng Nghymru wedi ei datgysylltu. Fe'i urddwyd ar yr 27 Chwefror 2003 a bu yn y swydd rhwng Rhagfyr 2002 a Rhagfyr 2012.[1][2]
Mae ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Cafodd ei dderbyn yn swyddogol i Dŷ'r Arglwyddi ar 14 Ionawr 2013. Roedd eisoes wedi eistedd fel un o'r Arglwyddi Ysbrydol, 26 o Esgobion Eglwys Lloegr sydd â sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Derbyniodd urddolaeth am oes wedi ei ymddeoliad fel Archesgob Caergaint.[3]
Llyfryddiaeth
golyguLlyfrau gan Rowan Williams
golygu- Arius - Heresy and Tradition. Revised Edition, William B. Eerdmans Publishing Company, Grand Rapids, Michigan, UDA/Caergrawnt, DU, 2002, ISBN 0-8028-4969-4.
- Writing in the Dust - Reflections on 11th Medi and Its Aftermath, Chwefror 2002, Hodder & Stoughton, ISBN 9780340787199
- Ponder These Things: Praying with Icons of the Virgin, Gorffennaf 2002, Canterbury Press, ISBN 9781853113628
- Poems of Rowan Williams, Ionawr 2003, Perpetua Press, ISBN 9781870882163
- Areithiau a Phregethau y Parch. a Gwir Anrhyd. Dr Rowan Williams Chwe 2000-Rhag 2002 / Addresses and Sermons Delivered by the Most Rev. & Rt. Hon. Dr Rowan Williams Feb 2000-Dec 2002, Mai 2003, Gwasg yr Eglwys yng Nghymru, ISBN 9780853261124
- Lost Icons, Awst 2003, Continuum Books, ISBN 9780826467997
- Silence and Honey Cakes: The Wisdom of the Desert, Tachwedd 2004, Lion Publishing, ISBN 9780745951706
- Grace and Necessity: Reflections on Art and Love, Mehefin 2005, Continuum Books, ISBN 9780819281180
- Tokens of Trust: An Introduction to Christian Belief, Mai 2007, Canterbury Press, ISBN 9781853118036
- Headwaters, Medi 2008, Perpetua Press, ISBN 9781870882194
- Rowan's Rule - The Biography of the Archbishop, Tachwedd 2008, Hodder & Stoughton, ISBN 9780340954256
Llyfrau amdano
golygu- Rowan Williams - Yr Archesgob, Awst 2006, Cynwil Williams, Gwasg Pantycelyn, ISBN 9781903314784
Rhagflaenydd: Alwyn Rice Jones |
Archesgob Cymru 1999 – 2002 |
Olynydd: Barry Cennydd Morgan |
Rhagflaenydd: George Leonard Carey |
Archesgob Caergaint 2002 – 2013 |
Olynydd: Justin Welby |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Archbishop of Canterbury Rowan Williams to stand down". BBC News. 16 Mawrth 2012. Cyrchwyd 16 Mawrth 2012.
- ↑ "Archbishop of Canterbury: Vote to confirm Justin Welby". 10 Ionawr 2013. Cyrchwyd 10 Ionawr 2013.
- ↑ "Arglwydd Williams o Ystumllwynarth". BBC Cymru Fyw. 2013-01-15. Cyrchwyd 2024-05-14.