Marged Esli
Actores, awdures ac athrawes yw Marged Esli Charles-Williams a adnabyddir fel Marged Esli (ganwyd Mawrth 1949). Mae'n adnabyddus am chwarae'r cymeriad Nansi Furlong yn yr opera sebon Pobol y Cwm.
Marged Esli | |
---|---|
Ganwyd | Marged Esli Charles-Williams ![]() Mawrth 1949 ![]() Ynys Môn ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, athro ![]() |
Bywyd cynnar ac addysgGolygu
Magwyd Marged ar Sir Fôn ac aeth i Ysgol Llandrygarn ac Ysgol Gyfun Llangefni. Roedd ei thad yn swyddog yn y fyddin a roedd ei mam yn gweithio ar fferm y teulu. Ei thaid (ochr ei mam) oedd Esli Hughes, a'i thaid (ochr ei thad) oedd y pregethwr Thomas Charles Williams.[1]
Yn blentyn bu'n adrodd mewn eisteddfodau a dysgodd chwarae'r piano i radd 8. Aeth i wneud cwrs actio yng Ngholeg y Normal, Bangor. Cafodd gyfle i ymuno gyda Cwmni Theatr Cymru ar gynllun hyfforddi.
GyrfaGolygu
Pan ymunodd ag Equity nid oedd yn bosib iddo ddefnyddio ei enw llawn, felly defnyddiodd yr enw Marged Esli.[1]
Yn yr 1970au cychwynodd weithio ar nifer o raglenni plant BBC Cymru. Cyfansoddodd dros 200 o ganeuon ar gyfer y rhaglen Bys a Bawd. Yn 1975 hi a Hywel Gwynfryn oedd cyflwynwyr cyntaf y rhaglen gylchgrawn Bilidowcar[2]
Ymunodd â Pobol y Cwm fel y cymeriad Nansi Furlong gan adael y gyfres ar ddiwedd y 1980au. Dychwelodd ei chymeriad yn 2010.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ 1.0 1.1 Beti a'i Phobol. BBC Cymru (11 Ebrill 2011).
- ↑ MARGED ESLI. Cinelgabran. Adalwyd ar 25 Ebrill 2018.
Dolenni allanolGolygu
- Marged Esli ar wefan Internet Movie Database