Teithwyr Gwyddelig

Pobl nomadaidd sydd yn frodorol i Iwerddon a sydd hefyd yn byw ym Mhrydain Fawr a rhannau o Unol Daleithiau America a Chanada[1] yw'r Teithwyr Gwyddelig (Pavees, Mincéiri[2] neu Mincéirs,[3] neu yn Wyddeleg an lucht siúil).[4][5] Prif iaith y Teithwyr Gwyddelig ydy'r Saesneg, a mae nifer ohonynt hefyd yn siarad Sielta, iaith gymysg sydd yn seiliedig ar Saesneg, Gwyddeleg, a Romani.[6] Mae'r mwyafrif ohonynt yn Gatholigion. Yn ôl cyfrifiad 2016, roedd 32,302 o Deithwyr Gwyddelig yn byw yng Ngweriniaeth Iwerddon,[7] ac yn cyfri am 0.7 % o boblogaeth y wlad.[8]

Teithwyr Gwyddelig yn Ynys Môn ym 1963.

Yn hanesyddol, gelwir y Teithwyr Gwyddelig yn Sipsiwn neu Sipsiwn Gwyddelig, er nad ydynt yn perthyn yn genetig i'r Roma.[9][10] Yn ôl astudiaethau genetig, maent yn Wyddelod o ran tarddiad, ac mae'n debyg iddynt ymwahanu oddi ar y boblogaeth sefydledig yn Iwerddon yn yr 17g, yn ystod goresgyniad yr ynys gan Oliver Cromwell. O ganlyniad i wahaniad y ddwy boblogaeth ers sawl canrif, mae Teithwyr Gwyddelig yn grŵp genetig ar wahân i'r Gwyddelod sefydledig.[11] Yn 2017 cydnabuwyd statws ethnig unigryw y Teithwyr Gwyddelig gan lywodraeth Gweriniaeth Iwerdddon.[12]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Questioning Gypsy". paveepoint.ie. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 October 2011.
  2. Mayock, Breda. "The Role of Hair in Traveller Culture". Cyrchwyd 15 September 2020.
  3. Joyce, Sindy. "A Brief History of the Insitutionalisation of Discrimination Against Irish Travellers". Cyrchwyd 28 September 2020.
  4. Ethnicity and the American cemetery by Richard E. Meyer. 1993. "... though many of them crossed the Atlantic in centuries past to play their trade".
  5. Questioning Gypsy identity: ethnic narratives in Britain and America by Brian Belton
  6. Liégeois, Jean-Pierre (2007). Roma in Europe (yn Saesneg a Ffrangeg). Strasbourg: Council of Europe Publishing. t. 43. ISBN 978-92-871-6051-5.
  7. Rieder, Maria (2018). "Irish Travellers' view on Cant: what folk criteria of languageness tell us about the community". Language Awareness 27 (1–2): 41. doi:10.1080/09658416.2018.1431242.
  8. "Irish Travellers - Demographics - CSO - Central Statistics Office". www.cso.ie (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-25.
  9. Griffin, Rosarii (2014). Education in Indigenous, Nomadic and Travelling Communities (yn Saesneg). A&C Black. t. 50. ISBN 9781472511195.
  10. https://www.thejournal.ie/traveller-community-study-rcsi-3231070-Feb2017/
  11. Gilbert, Edmund; Carmi, Shai; Ennis, Sean; Wilson, James F.; Cavalleri, Gianpiero L. (2017-02-16). "Genomic insights into the population structure and history of the Irish Travellers" (yn en). Scientific Reports 7 (1): 42187. Bibcode 2017NatSR...742187G. doi:10.1038/srep42187. ISSN 2045-2322. PMC 5299991. PMID 28181990. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5299991.
  12. "Taoiseach formally recognises ethnic status". The Independent. 1 March 2017.