Telor y Gwerni
Telor y Gwerni | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Acrocephalidae |
Genws: | Acrocephalus |
Rhywogaeth: | A. palustris |
Enw deuenwol | |
Acrocephalus palustris (Bechstein, 1798) |
Mae Telor y Gwerni (Acrocephalus palustris) yn aelod o deulu teloriaid y cyrs, Acrocephalidae, sy'n nythu yn y rhan fwyaf o gyfandir Ewrop heblaw Spaen a Phortiwgal ac yng ngorllewin Asia. Mae'n aderyn mudol, yn treulio'r gaeaf yn Affrica.
Nid yw'n aderyn hawdd ei adnabod gan ei fod yn debyg iawn i Delor y Cyrs, gyda chefn llwydfrown a gwyn ar y bol. Mae'n edrych ychydig yn fwy llwyd na Thelor y Cyrs, sy'n aderyn mwy brown, ac mae pig Telor y Gwerni yn llai. Ceir yr aderyn yma fel rheol lle mae tir gwlyb a llwyni, er enghraifft o gwmpas glannau llynnoedd ac afonydd, er ei fod i'w gael mewn lleoedd sych hefyd. Mae'n dodwy 3-6 wy mwy nyth sy'n cael ei adeiladu yn weddol agos i'r llawr fel rheol. Ei brif fwyd yw pryfed, ond gall fwyta aeron ambell dro.
Mae'r gân yn debyg iawn i gân Telor y Cyrs, ond yn gyflymach ac yn cynnwys mwy o ddynwared adar eraill. Y gân yw'r dull diogelaf o adnabod yr aderyn fel rheol.
Nid yw Telor y Gwerni yn nythu yng Nghymru ond gwelir ambell un yn ystod y gwanwyn a'r hydref pan maent yn mudo.