Teml Dendera
Teml Dendera (Hen Eiffteg: Iunet neu Tantere; Groeg Dendera), a leolir tua 2.5 km i'r de o dref Dendera, yng nghanolbarth Yr Aifft, yw un o'r enghreifftiau gorau o deml Eifftaidd a'i hadeiladau atodol yn yr Aifft. Fe'i lleolir yn yr Aifft Uchaf, i'r de o Abydos ac i'r gogledd o Thebes a Luxor, ar lan orllewinol Afon Nîl. Roedd yn ganolfan fawr i gwlt y dduwies Hathor.
Math | Egyptian temple, teml, adfeilion, safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dendera |
Gwlad | Yr Aifft |
Cyfesurynnau | 26.14167°N 32.67028°E |
Arddull pensaernïol | Hellenistic architecture |
Statws treftadaeth | Tentative World Heritage Site |
Manylion | |
Mae'r safle yn cynnwys 40,000 medr sgwar o dir a amgylchynnir gan fur o friciau mwd sych. Ymddengys mai'r brenin Pepi I (c. 2250 CC) a gododd un o'r temlau cyntaf ar y safel a cheir tystiolaeth hefyd am adeiladu arno yn ystod Deunawfed Frenhinllin yr Aifft (c. 1500 CC). Ond yr adeilad hynaf sy'n dal i sefyll yno heddiw yw'r Mammisi a godwyd gan y brenin Nectanebo II – yr olaf o'r pharaohs brodorol (360 CC-343 CC). Mae'r safle yn cynnwys,