Luxor
Prif ddinas De'r Aifft a phrifddinas yr ardal o'r un enw yw Luxor (Arabeg: الأقصر al-Uqṣur), gyda phoblogaeth o 451.318 (cyfrifiad 2006), mewn ardal o 416km2. Mae Luxor yn sefyll ar safle dinas hynafol Thebes. Mae cymaint o olion archaeolegol yno fel bod rhai wedi cyferio at Luxor fel "amgueddfa awyr agored fwyaf y byd"; mae olion teml Karnak a Teml Luxor o fewn y ddinas fodern. Dros yr afon, sef Afon Nîl, mae rhagor o demlau a beddau'r Lan Orllewinol sef Necropolis Thebes, yn cynnwys Dyffryn y Brenhinoedd a Dyffryn y Breninesau. Prif ddiwydiant Luxor erbyn heddiw yw twristiaeth.
Math | dinas, atyniad twristaidd, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 202,232 |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Luxor Governorate |
Gwlad | Yr Aifft |
Arwynebedd | 416 km² |
Uwch y môr | 89 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 25.6967°N 32.6444°E |
Cod post | 85511 |
Hanes
golygu- Gweler hefyd: Thebes.
O dan y Deyrnas Newydd daeth Luxor, neu Thebes, yn brifddinas yr Aifft, roedd hefyd yn ddinas grefydd y duw Amon-Ra. Ar y pryd fe'i gelwid yn "Waset". Dan oruchafiaeth y Groegwyr daeth yn Thebai neu Thebes. Dinas y gan porth oedd Thebes (Yr Aifft).
O dan y 11ed Brenhinllin, tyfodd i fod yn ddinas grefydd, gyfoeth, bwer a masnach. Dan Montuhotep II unwyd yr Aifft. Concrodd Kush, yng ngogledd Swdan, a thiroedd Canaan, Ffenicia, a Syria. Parhaodd ei phwysigrwydd o gyfnod y 18fed Frenhinllin hyd at yr 20fed Frenhinllin.
Erbyn amser y Groegwyr disodlwyd Thebes gan Alexandria yn cyfnod Ptolemi. Ond roedd Thebes yn ddinas y duw Amon-Ra, ac arhosodd fel prif ddinas crefydd yr Aifft. Y tri duw pwysicaf oedd Amon, ei wraig, y duwies Mut, a'u mab Khonsu, duw y lleuad. Teml i frenin y duwiau Amon-Ra yw Karnak i'r gogledd o Thebes. Daeth, Alexander Fawr i addoli yn Nheml Amun, ac yn y canrifodd cyntaf OC daeth mynachod Cristnogol dan yr Ymerodraeth Rufeinig i Luxor i ymsefydlu ymhlith y temlau paganaidd fel un Hatshepsut, erbyn heddiw Deir el-Bahri ("mynachlog y gogledd").
Hinsawdd
golyguLuxor | Ion | Chw | Maw | Ebr | Mai | Meh | Gor | Awst | Medi | Hyd | Tach | Rhag |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Tymheredd - Uchafbwynt cyfartalog (°C) (°C) |
23.0 | 23.0 | 25.4 | 27.4 | 35.0 | 39.2 | 41.4 | 40.4 | 38.8 | 35.3 | 28.9 | 24.4 |
Glawiad misol cyfartalog (mm) | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 1 | 0 | 0 | 1 |
Mae llai na 3mm o law bob blwyddyn ac y tymheredd ar adegau yn mynd dros 50c.
Hynafiaethau ardal Luxor
golygu- Teml Luxor
- Teml Karnak
- Amgueddfa Luxor
- Amgueddfa Mumiffeiddio
- Dyffryn y Brenhinoedd
- Dyffryn y Breninesau
- Medinet Habu (teml Ramesses III)
- Ramesseum (teml goffa Ramesses II)
- Deir el-Medina (pentre'r gweithwyr)
- Deir el-Bahri (Teml y Meirw Hatshepsut)
- Malkata (palas Amenophis III)
- Colossi Memnon (teml goffa Amenophis III)
Trafnidiaeth
golyguDolenni allanol
golygu- www.luxor.gov.eg Gwefan Luxor Archifwyd 2013-08-02 yn y Peiriant Wayback
- Theban Mapping Project
- Safle Treftadaeth y Byd Luxor Archifwyd 2012-12-09 yn archive.today
- Map hinsawdd
- Teml Luxor: oriel Archifwyd 2010-08-25 yn y Peiriant Wayback