Tendon
Meinwe gyswllt yw tendon neu gewyn sy'n cysylltu'r cyhyrau i'r asgwrn mewn bodau dynol ac mewn anifeiliaid eraill. Gall wrthsefyll tensiwn i raddau helaeth. Mae'r tendon yn wahanol i'r tennyn (ligament), sy'n cysylltu asgwrn i asgwrn. Mae tendonau a chyhyr, felly'n gweithio gyda'i gilydd i dynnu.
Math o gyfrwng | dosbarth o endidau anatomegol, math o feinwe |
---|---|
Math | dense regular connective tissue, darn o organ, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | striated muscle tissue |
Yn cynnwys | meinwe gyswllt |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Adnabyddir tennynau hefyd fel gewynnau, am yr erthygl hwnnw gweler tennyn.
Eu gwneuthuriad
golyguMae'r tendon wedi ei wneud allan o ffibrau colagen wedi'u pacio'n dynn at ei gilydd. Colagen teip 1 sydd i'w weld amlaf, er y ceir teip a 111 a V ar adegau. Protinau eraill sy'n eu dal at ei gilydd. Ceir rhydweliau gwaed yn rhedeg yn gyfochrog â'r tendonnau, ond ni chredir fod nerfau mân ynddynt (ar wahan i'r peritendon). I godi pwysau, mae'n beth da cael tendonnau bach a chyhyr mawr; ond i redeg, mae tendon Achilles hir yn bwysicach na chyhyrau mawr. Mae maint y tendonnau'n gwahaniaethu'n fawr o berson i berson a'u hŷd yn cael eu pasio ymlaen drwy'r genynnau yn hytrach na thrwy ymarfer.
Yn ystod y ddegawd diwethaf, nid fel casgliad o gelloedd sy'n medru cyfangu'n unig yr edrychir arnynt. Bellach, ceir nifer o arbrofion sy'n gweld rhinwedd y 'sbring' ynddynt, sy'n golygu y gallent storio grym.