Tennyn
Mae tennyn, gewyn neu ligament, mewn anatomeg, yn cyfeirio at dri math o strwythur o fewn y corff:
- Meinwe gyswllt ffibrog sy'n cysylltu esgyrn ag esgyrn eraill. Gelwir weithiau yn "dennyn cymalol", "tennyn ffibrog", neu "gwir dennynau".
- Plyg y peritonewm neu bilen arall.
- Gweddillion y system tiwbaidd o'r cyfnod ffoetaidd o fywyd.
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | meinwe gyswllt, general anatomical term |
Yn cynnwys | intracapsular ligament, extracapsular ligament, capsular ligaments |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Adnabyddir tendonau hefyd fel gewynnau, am yr erthygl hwnnw gweler tendon.
Y math cyntaf yw'r un a gyfeirir ato gan amlaf gyda'r term 'tennyn'.
Desmoloeg yw'r enw am yr asudiaeth o dennynau, daw o'r Hen Roeg δεσμός, desmos, "tant" neu "llinyn"; a -λογία, -logia.
Tennynau peritonewm
golyguCyfeirir at rhai o blygiau'r peritonewm fel tennynau.
Mae esiamplau yn cynnwys:
- Y tennyn hepatoduodenal, sy'n amgylchynu'r gwythïen porth hepatig a llestri eraill fel maent yn teithio o'r dwodenwm i'r iau.
- Mae tennyn llydan y groth hefyd yn blyg yn y peritonewm.
- Tennyn cynhaliol yr ofari
Tennyn gweddill ffoetaidd
golyguCyfeirir at rhai strwythrau tiwbaidd sy'n weddill o'r cyfnod ffoetaidd fel tennynau ar ôl iddynt gau a throi i mewn i drwythrau tebyg i linyn:
Ffoetws | Oedolyn |
ductus arteriosus | ligamentum arteriosum |
Rhan rhagorol-hepatig gwythïen wmbilig chwith y ffoetws | ligamentum teres hepatis ("tennyn crwn yr iau"). |
Rhan mewn-hepatig gwythïen wmbilig chwith y ffoetws (y ductus venosus) | ligamentum venosum |
Rhannau distal rhydweli wmbilig chwith a dde y ffoetws | medial umbilical ligaments |
Tennyn cymalol
golyguYn y ffurf a gyfeirir ato gan amlaf, rhwymyn byr o meiwe gysylltol rheolaidd dwys sy'n galed a ffibrog yw tennyn . Cyfansoddir yn bennaf o ffibrau hir llinynnog colagen. Mae tennynau'n cysylltu esgyrn at esgyrn eraill i ffurfio cymal. (Nid ydynt yn cysylltu cyhyrau â'r esgyrn, tendonnau sy'n gwneud hyn.) Mae rhai tennynau'n cyfyngu rhai symudiadau, neu'n atal eraill yn gyfan gwbl.