Beiau Gwaharddedig Cerdd Dafod


Hyd at yn lled ddiweddar, ar lafar yr arferid adrodd a chanu Cerdd Dafod a phur anaml y darllenid cerddi cynganeddol yn dawel ym meddwl y darllenydd; pethau cymdeithasol oeddynt. Yn wir, pwrpas cerdd dafod yw creu patrymau o seiniau drwy ailadrodd odl a chytseiniaid mewn modd sy'n swnio'n dda ar lafar. I'r pwrpas hwn, ac er mwyn bod yn ganllaw i feirdd, ceid nifer fawr o reolau pendant, a disgwylid lefel uchel o grefft a disgyblaeth yng ngwaith y bardd caeth.

Mae rhai o'r rheolau hyn yn hen iawn; o bosibl yn dyddio o'r 14g pan ysgrifennwyd Gramadeg Einion Offeiriad fel arweiniad i'r canu caeth, felly mae'r rheolau wedi'u gwreiddio yn ddwfn yn y Traddodiad Barddol.

Yn yr hen lawysgrifau, ceir rhestri o'r beiau hyn, sef beiau gwarddedig cerdd dafod, a chyfiawnhad dros eu bodolaeth. Mae rheolau cerdd dafod, felly, yn ceisio cadw purdeb y farddoniaeth i'r glust gan mai rhywbeth i'w berfformio oedd canu caeth yr Oesoedd Canol a chyfnod y Dadeni Dysg yn bennaf. Mae'r traddodiad llafar yn rhan amlwg iawn o raison d'être y rheolau hyn, sef y traddodiad llafar a gadwodd beth o ganu'r Cynfeirdd ar gof ar hyd canrifoedd yr Oesoedd Canol Cynnar.

Dyluniodd Pedr Fardd gwpledi cofeiriol (mnemonics) i ddangos y beiau hyn, a cheir copi ohonynt yn Yr Ysgol Farddol (1869) gan Dafydd Morganwg. Fodd bynnag, ni ddylid rhoi gormod o sylw i'r rhain gan fod rhai yn anghywir wrth ddisgrifio'r beiau yn ôl rheolau heddiw. Dyma'r enghraifft a roddir o Broest i'r awdl (odl):

Brysied itti Broest etto,
A hwnw ar fai - hanner fo.

Yn ôl y rheolau heddiw, nid yw'r ail linell yn euog o Broest i'r odl o gwbl a gellir cyfiawnhau y llinell gyntaf gyda goddefiad y Llif y Llafar. Dywed Syr John Morris-Jones yn Cerdd Dafod:

Nid oedd yr un o'r rhai a honnai ddysgu cynghanedd yn y ganrif ddiwethaf (19eg ganrif) yn deall beth oedd proest.[1]

Y beiau

golygu
  • Crych a llyfn[2]
Mae llinell yn euog o Grych a llyfn pan fo'r acen yn gwahanu dwy gytsain y mae gofyn eu hateb. Mae'r llinell:
Y mae'n pydru mewn pader
yn euog o'r bai hwn gan fod yr acen yn gwahanu y "d" a'r "r" yn "pader" tra bo'r ddwy gytsain yn syrthio ar yr acen yn "pydru".
Ceir tystiolaeth nad oedd pob bardd llys yn derbyn fod crych a llyfn yn fai i'w ochel. Ceir 63 enghraifft ohono yng ngolygiad yr Athro Dafydd Johnston o waith Lewys Glyn Cothi, er enghraifft, ac yn ei gopi o ramadeg y beirdd mae Siôn Brwynog yn dadlau "nad oedd ef yn fai, ac y gellid ei ganu a'i warantu yn ddifai".[3]
  • Proest i'r odl[4]
Mae llinell yn euog o Broest i'r odl pan fo odl broest yn digwydd rhwng y ddwy brif acen. Mae'r llinell:
Gerllaw tân y gŵr llwyd hen (Dafydd ap Gwilym)
yn euog o Broest i'r odl gan fod "tân" a "hen" yn gorffen gyda'r gytsain "n" a dwy lafariad ysgafn gan y ddau air.
Dybryd Sain yw'r enw a roir ar broest o fewn Cynghanedd sain. Mae llinell yn euog o'r bai pan fydd proest yn digwydd rhwng yr ail a'r drydedd ran, megis y llinell:
cofnodi'r gwir a wna gwŷr ("ir" yn proestio gyda'r ddeusain dalgron "ŷr").
  • Ymsathr odlau[6]
Mae llinell yn euog o Ymsathr Odlau pan fo'r llafariad bur cyn yr orffwysfa yn proestio ag ail elfen deusain leddf ar ddiwedd y llinell. Mae'r llinell:
Y gŵr o Gaerlleon gawr (Simwnt Fychan)
yn cael ei defnyddio'n aml i ddangos y bai hwn. Mae'r llafariad bur cyn yr orffwysfa (ŵ) yn proestio ag ail elfen y ddeusain leddf ar derfyn y llinell, sef yr "w" yn y ddeusain "aw". Fodd bynnag, ni chosbir y bai hwn yn llym y dyddiau hyn.
  • Trwm ac ysgafn[7]
Bai wrth odli yw Trwm ac ysgafn. Ni chaniateir odli llafariad drom (llafariad fer) gyda llafariad ysgafn (llafariad hir);
e.e. nid yw "gwyn" a "dyn" yn odli, ac felly'n euog o'r bai hwn.
  • Lleddf a thalgron[8]
Bai wrth odli yw Lleddf a thalgron. Ni chaniateir odli "llwyn" gyda "gwyn" gan fod deusain leddf yn "llwyn" (wy) a deusain dalgron yn "gwyn", sef "y" i bob pwrpas.
Ceir rheolau yn dynodi pa mor bell y gellir gosod yr orffwysfa mewn llinellau seithsill o gynghanedd Groes neu Draws:
Mewn cynghanedd gytbwys acennog: heb fod ymhellach na'r bedwaredd sillaf.
Mewn cynghanedd gytbwys ddiacen: yr acen drom heb fod ymhellach na'r drydedd sillaf.
Mewn cynghanedd anghytbwys ddisgynedig: heb fod ymhellach na'r drydedd sillaf.
Yn ail linell englyn unodl union, ni chaniateir i'r acen drom syrthio ymhellach na'r drydedd sillaf.
Gelwir llinell sy'n torri'r rheol hon yn llinell bendrom. Mae'r llinellau:
A dawns y don sidanaidd (R. Williams Parry, Cantre'r Gwaelod), ac
Oni thorres iaith o'r sŵn (R. Williams Parry, Yr Haf)
yn bendrwm, ac felly'n euog o gamosodiad gorffwysfa.
Mae llinell yn euog o Gamosodiad pan fo'r cytseiniaid yn y gyfatebiaeth wedi'u gosod yn y drefn anghywir. Mae'r llinell:
Ac ar ôl trais, galar trwm (Tudur Aled)
yn euog o'r bai hwn gan na chaiff y cytseiniaid eu cyfateb yn y drefn gywir; (g-r-l-t-r ; g-l-r-t-r) (seinir "ac" fel "ag" mewn cyfatebiaeth gynganeddol).
  • Twyll Gynghanedd[12]
Mae llinell yn euog o Dwyll Gynghanedd pan na chaiff cytsain neu gytseiniaid eu hateb mewn llinell o gynghanedd. Mae'r llinell:
Golwg teg fydd gweled hyn (Dafydd ap Gwilym)
yn euog o'r bai hwn gan na chaiff yr ail "g" yn "golwg" ei hateb yn ail hanner y llinell.
Ni chaniateir odli dau air fel "parabl" a "trwyadl", felly byddai pennill caeth sy'n cynnwys yr odl hon yn euog o Dwyll Odl.
  • Gormod (Gormodd) Odlau[14]
Mae llinell yn euog o Ormod Odlau pan fo gair acennog sy'n dwyn un o acenion y gynghanedd yn odli gyda'r brifodl os yw'r brifodl yn ddiacen. Mae'r llinell:
Yn y llan a ni'n llonni
yn euog o'r bai hwn gan fod "ni" yn odli gyda'r brifodl, sef "llonni".
Mae llinell yn euog o fod yn Rhy Debyg pan fo'r un llafariaid yn ymddangos cyn ac ar ôl yr acen mewn cynghanedd gytbwys ddiacen yn unig. Mae'r llinell:
Pur ryfedd yw pob rhyfel
yn euog o'r bai hwn gan fod "rhyfedd" a "rhyfel" yn rhannu'r un llafariaid cyn ac ar ôl yr acen.
Mae llinell yn euog o Dor Mesur pan fo prinder neu ormodedd sillafau mewn llinell ar fesur arbennig. Un enghraifft yw:
Anodd yw dy goelio unawr,
sydd un sillaf yn rhy hir i fod yn llinell gywir o Gywydd Deuair Hirion. Gall enghreifftiau o dor mesur yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr fod yn llithriadau gan gopïwyr.
Mae pennill yn euog o Westodl pan ddefnyddir yr un brifodl ddwywaith o fewn y pennill. Mae'r englyn hwn yn euog o'r bai:
I Ddafydd gelfydd ei gân - oer ofid
Rhoi Ifor mewn graean;
Y llwybrau gynt lle bu'r gân
Yw lleoedd y dylluan. (Ieuan Brydydd Hir)
gan fod "cân" yn cael ei ddefnyddio fel prifodl ddwywaith.
Gwyddai'r bardd fod yr englyn yn anghywir o'r herwydd, ac felly ceir ffurf arall ar yr esgyll weithiau, sef
Mwy echrys fod ei lŷs lân
Yn lleoedd i'r dylluan.
Bai camarweiniol a ddyfeisiwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw Hanner proest, sef bod proest gyda chytseiniaid tebyg fel -t a -d yn fai. Ni raid talu sylw iddo; yn wir; mae Syr John Morris-Jones yn nodi mai ynfydrwydd ydyw.[19] Noda'r "rheol" hon y byddai llinell fel:
Heniaith yn uno'r cannoedd
yn anghywir, gan fod deusain leddf o'r un dosbarth yn y ddau air ("ai" ac "oe") a dwy gytsain debyg; "th" a "dd"; ar derfyn y ddau air. Er hyn, ystyrir y llinell yn gwbl gywir heddiw.
Mae llinell yn euog o gamacennu pan nad yw'r acen yn gyson ar y ddwy ochr, a phan nad yw'r cytseiniaid o gwmpas yr acen yn dilyn yr un patrwm. Mae'r cyfatebiaethau:
gweddi/gweddïais a Stŵr o hyd yw'r storïau
yn euog o gamacennu.
Rheol yw hon sy'n nodi na chaniateir defnyddio'r gynghanedd Lusg yn llinell olaf pennill o gywydd na llinell olaf Englyn unodl union. Ceir peth anghytundeb ynglŷn â'i defnydd yn llinell olaf yr englyn penfyr a'r englyn milwr.
Dyma'r enw ar y bai o osod dwy brifodl ddiacen mewn pennill o gywydd neu esgyll englyn unodl union.
Mae'r bai tin ab yn debyg i Garnymorddiwes, ond y bai y tro hwn yw gosod dwy brifodl acennog mewn pennill o gywydd neu esgyll englyn unodl union

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925
  2. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925, tudalen 145
  3. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995), rhagymadrodd, tud. xxxiv.
  4. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925, tudalen 255-262
  5. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925, tudalen 257-258
  6. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925, tudalen 260
  7. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925, tudalen 232-235
  8. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925, tudalen 235-245
  9. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925, tudalen 271-272
  10. Myrddin ap Dafydd, Clywed Cynghanedd, Gwasg Carreg Gwalch, 1994, tudalen 151
  11. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925, tudalen 298-299
  12. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925, tudalen 299-300
  13. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925, tudalen 300
  14. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925, tudalen 300-301
  15. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925, tudalen 303-304
  16. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925, tudalen 305
  17. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925, tudalen 306
  18. Myrddin ap Dafydd, Clywed Cynghanedd, Gwasg Carreg Gwalch, 1994, tudalen 149
  19. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925, tudalen 260-261
  20. Myrddin ap Dafydd, Clywed Cynghanedd, Gwasg Carreg Gwalch, 1994, tudalen 150
  21. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925, tudalen 180-181
  22. 22.0 22.1 John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925, tudalen 304-305

Gweler hefyd

golygu