Terfysgaeth a noddir gan wladwriaethau
- Efallai eich bod yn chwilio am terfysgaeth wladwriaethol.
Cefnogaeth dros garfanau terfysgol lled-annibynnol gan lywodraethau yw terfysgaeth a noddir gan wladwriaethau.[1] Mae gwladwriaethau wedi cyllido, hyrwyddo, indoctroneiddio, ac arfogi gweithredyddion anwladwriaethol fel modd o ryfela seicolegol a phropaganda i achosi gwrthdaro mewn gwladwriaethau eraill.[2]
Defnyddiwyd y term ers y Rhyfel Oer, yn arbennig yn y 1980au, ac yn aml gan Adran Dramor yr Unol Daleithiau a dadansoddwyr ceidwadol Americanaidd.[2] Cyhuddodd yr Unol Daleithiau bod gwladwriaethau comiwnyddol gan gynnwys yr Undeb Sofietaidd a gwladwriaethau totalitaraidd gan gynnwys Iran, Libia, a Syria yn noddi terfysgaeth mewn gwledydd eraill.[2] Parhaodd y syniad o derfysgaeth a noddir gan wladwriaethau yn y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth ar gychwyn yr unfed ganrif ar hugain pan ddatganodd yr Arlywydd George W. Bush bod rhai gwladwriaethau yn rhan o "echel y fall",[3] ac mae gorfodi gwladwriaethau i ymatal rhag noddi terfysgaeth yn un o brif nodau polisi gwrthderfysgaeth yr Unol Daleithiau.[4] Ond yn wyneb natur hyblyg mudiadau terfysgol newydd megis al-Qaeda, mae rhai yn gweld nawddogaeth wladwriaethol bellach yn ddianghenraid i derfysgwyr. Er enghraifft, llwyddodd Mohammed Atta, un o herwgipwyr ymosodiadau 11 Medi 2001, i weithredu yn yr Almaen a'r Unol Daleithiau yn hytrach nag angen droi at wladwriaeth arall am noddfa.[5] Yn ôl rhai, mae model yr Unol Daleithiau yn darparu esgus am bolisi o ragymosod ar wladwriaethau maent yn cyhuddo o noddi terfysgaeth.[6]
Mae rhai yn awgrymu bod pwyslais ar derfysgaeth a noddir gan wladwriaethau yn gamarweiniol wrth ddeall natur terfysgaeth drawswladol, ac yn fodd o wadu rhesymau grwpiau terfysgol dros eu tactegau treisgar.[3]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golyguFfynonellau
golygu- Townshend, C. (2002) Terrorism: A Very Short Introduction. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen.
- Weinberg, L. B. a Davis, P. B. (1989) Introduction to Political Terrorism. Efrog Newydd: McGraw-Hill.