Terfysgaeth wladwriaethol
- Efallai eich bod yn chwilio am terfysgaeth a noddir gan wladwriaethau.
Terfysgaeth gan lywodraethau yw terfysgaeth wladwriaethol. Mae'n cymryd ffurf cefnogaeth lywodraethol swyddogol dros drais, gormes, a brawychiad yn erbyn bygythiadau canfyddedig i ddiddordebau a diogelwch y wladwriaeth.[1]
Mae diffiniadau terfysgaeth bron wastad yn canolbwyntio ar y weithred yn hytrach na natur y gweithredydd, ond er hyn dadleuol yw'r syniad y gall gwladwriaethau bod yn euog o derfysgaeth.[2] Yn gyffredinol mae gwladwriaethau yn gwrthod bod terfysgaeth wladwriaethol yn bodoli, gan fod diffiniadau lywodraethol o derfysgaeth yn seiliedig ar y syniad Weberaidd o fonopoli'r wladwriaeth ar ddefnydd cyfreithlon grym. O ganlyniad maent yn ystyried unrhyw drais gan y wladwriaeth yn gyfreithlon, ac unrhyw drais gan weithredydd anwladwriaethol yn de facto yn ymddwyn y tu allan i ffiniau derbyniol gweithgarwch gwleidyddol ac felly'n derfysgaeth.[3] Ni sonir am "derfysgaeth wladwriaethol" o gwbl yng nghyfraith ryngwladol, ond mae diffiniadau academaidd ohoni yn aml yn gorgyffwrdd â'r syniad o droseddau rhyfel, sydd â diffiniad cyfreithiol.[4]
Mae nifer o unigolion, sefydliadau, a mudiadau yn dadlau bod fath beth â therfysgaeth wladwriaethol, a bod ei helfennau yr un ag elfennau terfysgaeth anwladwriaethol.[5] Yn ôl yr academydd Ruth Blakeley, mae terfysgaeth wladwriaethol yn cymryd y ffurfiau canlynol:[4]
- trais bwriadol gan lywodraeth yn erbyn unigolion y mae gan y wladwriaeth ddyletswydd i'w hamddiffyn;
- mae gweithredyddion y trais yn gweithredu ar ran neu ynghŷd â'r wladwriaeth (e.e. grwpiau parafilwrol, asiantau diogelwch preifat);
- brawychu'r rhai sy'n uniaethu â tharged y trais; a
- gorfodi'r targed i newid eu hymddygiad.
Mae dulliau terfysgaeth wladwriaethol yn cynnwys diflaniad gorfodol, carchariad anghyfreithlon, artaith, bradlofruddiaeth, herwgipio, torri cyfraith ryngwladol (yn enwedig Cytundebau Genefa), a thargedu sifiliaid yn ystod gwrthdaro arfog. Mae Ymgyrch Condor, ymgyrch aml-lywodraethol a welodd cydweithio rhwng unbenaethau milwrol Côn Deheuol De America, yn enghraifft nodweddiadol o ddefnydd y tactegau yma.[6]
Cyfeiriadau
golyguFfynonellau
golygu- Blakeley, R. (2010) 'State terrorism in the social sciences: Theories, methods and concepts'. Yn Contemporary State Terrorism: Theory and Practice, golygwyd gan Richard Jackson, Eamon Murphy, a Scott Poynting. London: Routledge.
- Martin, G. (2006) Understanding Terrorism: Challenges, Perspectives, and Issues. Thousand Oaks, CA: SAGE.
- Townshend, C. (2002) Terrorism: A Very Short Introduction. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen.