Terry Yorath
Cyn chwaraewr a rheolwr pêl-droed o Gymru ydy Terry Yorath (ganwyd Terence Charles Yorath 27 Mawrth 1950). Chwaraeodd i Leeds United, Coventry City, Tottenham Hotspur, Vancouver Whitecaps, Bradford City, Dinas Abertawe a thîm cenedlaethol Cymru.
Terry Yorath | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 27 Mawrth 1950 ![]() Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | pêl-droediwr, rheolwr pêl-droed ![]() |
Taldra | 177 centimetr ![]() |
Plant | Gabby Logan ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Bradford City A.F.C., Vancouver Whitecaps, Leeds United F.C., Tottenham Hotspur F.C., C.P.D. Dinas Abertawe, Coventry City F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ![]() |
Safle | canolwr ![]() |
Gwlad chwaraeon | Cymru ![]() |
Ar ôl ymddeol o chwarae, daeth yn reolwr ar Bradford City, Dinas Abertawe, Dinas Caerdydd Sheffield Wednesday, Cymru a Libanus.
Leeds United
golyguDechreuodd Yorath ei brentisiaeth gyda Leeds United gan arwyddo cytundeb proffesiynol gyda'r clwb yn 17 mlwydd oed[1]. Ond fe'i cafodd yn anodd sicrhau ei le yn nhîm llwyddiannus Leeds, gyda'r rheolwr, Don Revie, yn ffafrio Billy Bremner a Johnny Giles.
Rhwng 1967 a 1972 dim ond 14 gêm chwaraeodd Yorath dros Leeds ond yn ystod tymor 1972-73 llwyddodd i sicrhau ei le yn y tîm gan chwarae yn rownd derfynol Cwpan FA 1973 ac yn rownd derfynol Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop UEFA yn erbyn A.C. Milan. Er colli'r ddwy rownd derfynol, llwyddodd Yorath i sicrhau medal y tymor canlynol wrth i Leeds gipio'r Bencampwriaeth ac ym 1975 daeth y Cymro cyntaf i chwarae yn rownd derfynol Cwpan Ewrop[2] ond colli oedd hanes Leeds yn erbyn Bayern Munich.
Coventry City
golyguYm 1976, symudodd i Coventry City am £125,000[3] lle cafodd ei wneud yn gapten ar y clwb. Gorffennodd y Sky Blues yn seithfed yn yr Adran Gyntaf ym 1977-78, dim ond unwaith erioed mae'r clwb wedi gorffen mewn safle gwell. Treuliodd Yorath dair blynedd gyda'r clwb gan chwarae 99 gêm a sgorio tair gôl cyn symud i Tottenham Hotspur am £300,000 ym 1979[3].
Bradford City
golyguAr ôl cyfnod yn chwarae yn yr NASL gyda Vancouver Whitecaps ymunodd â Bradford City fel chwaraewr/hyfforddwr. Cafodd ei anafu yn ystod Trychineb Tân Bradford wrth neidio allan o ffenestr ar ôl arwain cefnogwyr allan o far yn yr eisteddle oedd ar dân[4].
Rhyngwladol
golyguCasglodd Yorath y cyntaf o'i 59 cap dros Gymru yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain ym 1969[5]. Cafodd y fraint o arwain ei wlad fel capten ar 42 achlysur.
Gyrfa rheoli
golyguCymrodd yr awenau gyda Dinas Abertawe ym 1986 gan arwain y clwb i ddyrchafiad i'r Drydedd Adran ym 1987-88[6].
Ym 1989 cafodd ei benodi'n reolwr rhan amser ar Gymru gan barhau yn ei rôl gydag Abertawe. Gadawodd Abertawe er mwyn ail ymuno â Bradford ond wedi llai na blwyddyn wrth y llyw yn Valley Parade cafodd ei ddiswyddo a dychwelodd i Abertawe.
Ym 1991, wedi rhediad siomedig, gadawodd Abertawe unwaith eto er mwyn canolbwyntio ar reoli Cymru. O dan reolaeth Yorath, sicrhaodd Cymru eu safle gorau erioed ar restr detholion FIFA ar 27 Awst 1993[7] a daeth Cymru o fewn trwch blewyn o gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed 1994. Yn dilyn eu methiant, ni chafodd cytundeb Yorath ei adnewyddu a cafodd John Toshack, oedd ar y pryd yn reolwr ar Real Sociedad, ei benodi'n reolwr rhan amser. Ond ymddiswyddodd Toshack wedi dim ond un gêm - colled 3-1 yn erbyn Norwy gyda'r cefnogwyr yn y gêm yng Nghaerdydd yn bloeddio eu haniddigrwydd tuag at y Gymdeithas Bêl-droed yn dilyn diswyddiad Yorath[8].
Llyfryddiaeth
golygu- Terry Yorath, Hard Man, Hard Knocks (Caerdydd: Celluloid, 2004), hunangofiant
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Terry Yorath". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-02. Cyrchwyd 2015-02-16. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Hanes Cwpan Pencampwyr Ewrop". 2007-05-23. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ 3.0 3.1 "Played for both: Coventry City footballers who have also turned out for Bradford City". 2014-08-08. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Gabby Logan's football star father 'lucky to be alive' after fleeing chip pan fire which destroyed his home". 2011-09-07. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Rush job in Brescia the only Welsh win". 2002-10-14. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Yorath eyes promotion spot". 2004-05-15. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "FIFA: Wales rankings". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-20. Cyrchwyd 2015-02-16. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ Hughes, Dewi (12 November 2004). "Time for Toshack to deliver". BBC Sport. BBC. Cyrchwyd 2004-11-12.