Tesla Energy

cwmni solar o'r UDA

Tesla Energy Operations, Inc. yw is-adran ynni glân Tesla, Inc. sy'n datblygu, cynhyrchu, gwerthu a gosod systemau cynhyrchu ynni solar ffotofoltäig, cynhyrchion batris storio ynni ac ati i gwsmeriaid.

Tesla Energy
Enghraifft o'r canlynolcwmni, brand, busnes, sefydliad, corfforaeth Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Rhiant sefydliadTesla Edit this on Wikidata
CynnyrchTesla Powerpack, Powerwall, Tesla Solar Roof, Panel solar, llechi solar Edit this on Wikidata
PencadlysFremont Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.tesla.com/de_de/energy Edit this on Wikidata

Sefydlwyd yr adran ar 30 Ebrill 2015, pan gyhoeddodd Prif Swyddog Gweithredol Tesla sef Elon Musk, y byddai'r cwmni'n cymhwyso'r dechnoleg batri a ddatblygodd ar gyfer ceir trydan i system storio ynni cartref o'r enw Powerwall. Yn Nhachwedd 2016, prynodd Tesla SolarCity, mewn cytundeb US$2.6 biliwn, gan ychwanegu cynhyrchu ynni solar at fusnes Tesla Energy. Roedd y fargen hon yn ddadleuol; ar adeg y caffaeliad, dywedwyd fod SolarCity yn wynebu problemau ariannol.

Mae cynhyrchion cynhyrchu pŵer presennol y cwmni'n cynnwys paneli solar (a weithgynhyrchir gan gwmnïau eraill ar gyfer Tesla), to solar Tesla (Tesla Solar Roof; system llechi solar), a gwrthdröydd solar Tesla. Mae'r cwmni hefyd yn gwneud system storio ynni ar raddfa fawr o'r enw Megapack . Yn ogystal a hyn, mae Tesla'n datblygu meddalwedd i gefnogi ei gynnyrch.

Yn 2022, defnyddiodd y cwmni systemau ynni solar a oedd yn gallu cynhyrchu 348 megawat (MW), cynnydd o 1% dros 2021, a defnyddio 6.54 gigawat-oriau (GWh) o gynhyrchion batris storio ynni, cynnydd o 62% dros 2021. Cynhyrchodd yr adran $3.91 biliwn mewn refeniw ar gyfer y cwmni yn 2022, cynnydd o 40% dros 2021.

Hanes golygu

Ehangiad Tesla i fatris storio ynni golygu

 
Giga Nevada, ffatri batri Tesla

Wrth i Tesla, Inc. ddatblygu batris ar gyfer ei fusnes ceir trydan, dechreuodd y cwmni hefyd arbrofi gyda defnyddio batris ar gyfer storio ynni. Gan ddechrau yn 2012, gosododd Tesla becynnau batri prototeip (a elwir yn Powerpack yn ddiweddarach) yn ffatrioedd rhai o'u cwsmeriaid diwydiannol.[1] Yn Nhachwedd 2013, cyhoeddodd Tesla y byddai'n adeiladu Giga Nevada, ffatri i gynhyrchu batris lithiwm-ion.[2][3]

Cyflwynwyd brand Tesla Energy ar 30 Ebrill 2015 wrth i'r Prif Swyddog Gweithredol Elon Musk gyhoeddi y byddai'r cwmni'n cymhwyso ei dechnoleg batri i system storio ynni cartref o'r enw Powerwall. Adeiladwyd pum cant o unedau peilot yn Ffatri Tesla Fremont a'u gosod yn ystod 2015. Dechreuodd ffatri Giga Nevada gynhyrchiad cyfyngedig o Powerwalls a Powerpacks yn chwarter cyntaf 2016[4][5] gan ddefnyddio celloedd batri a gynhyrchwyd mewn mannau eraill, a dechreuodd mas-gynhyrchu'r celloedd yn Ionawr 2017.[6] Nid yw'r dechnoleg batri hon yn arloesi o'r hyn sydd ar gael yn y farchnad ond, yn ôl Musk, cynigiodd y cwmni gynnyrch sy'n hawdd ei osod, yn fwy deniadol, yn llai costus a gellir ei drwsio a'i uwchraddio'n hawdd hefyd.[7]

Tesla'n prynu SolarCity golygu

Sefydlodd y brodyr Peter a Lyndon Rive, cefndryd Prif Swyddog Gweithredol Tesla, Elon Musk, SolarCity yn 2006 i werthu a gosod systemau cynhyrchu ynni solar yn ogystal â chynnyrch a gwasanaethau cysylltiedig eraill i gwsmeriaid.[8] Awgrymodd Musk y syniad o greu cwmni solar i'r brodyr Rive ac yn ddiweddarach gwasanaethodd fel cadeirydd SolarCity.[9]

Ym Mehefin 2014, ymrwymodd SolarCity i adeiladu ail ffatri, o'r enw Giga Efrog Newydd yn Buffalo, Efrog Newydd, a fyddai'n adeiladu celloedd ffotofoltäig ac a fyddai'n deirgwaith maint y ffatri weithgynhyrchu ffotofoltäig fwyaf yn yr Unol Daleithiau.[10]

Erbyn 2016, roedd SolarCity wedi gosod systemau ynni solar ar gyfer dros 325,000 o gwsmeriaid ac roedd yn un o'r cwmnïau gosod paneli a llechi solar mwyaf yn yr Unol Daleithiau.[11]

Ar y cyntaf o Awst 2016, cyhoeddodd Tesla y byddai'n caffael SolarCity am $2.6 biliwn.[12] Cenhadaeth Tesla ers ei sefydlu yw "cyflymu trawsnewid y byd i ynni cynaliadwy" [13] Dywedodd Musk y byddai'r pryniant yn hyrwyddo cenhadaeth Tesla trwy helpu'r byd i symud o economi hydrocarbon mwyngloddio a llosgi tuag at economi trydan solar. [14] Arweiniodd y cyhoeddiad hwn at ostyngiad o fwy na 10% ym mhris stoc Tesla.[15]

Cymeradwywyd y cynnig yn Awst 2016.[16][17] Pleidleisiodd dros 85% o gyfranddalwyr Tesla a SolarCity dros y caffaeliad[18][19] gan gwbwlhau'r cytundeb ar 21 Dachwedd 2016.

Mae model busnes Tesla Energy yn seiliedig ar wneud eu systemau "y gost leiaf yn yr Unol Daleithiau." Yn 2021 roedd y cwmni'n gwerthu systemau $2 y wat ar gyfer paneli solar cyn nawdd y treth ffederal.[20] Dywed Tesla fod y model busnes wedi'i alluogi trwy ddileu costau gwerthu o ddrws i ddrws, hysbysebu, a phrydlesu.[21][22] Mae'r newid yn y model busnes wedi cael ei feirniadu am lai o gymorth i gwsmeriaid. Dywedodd cwsmeriaid eu bod yn aros wythnosau am atebion i e-byst a'u bod wedi profi oedi hir i gamau gweinyddol gael eu cwblhau.[23]

Yn 2022, gwerthodd y cwmni systemau ynni solar a oedd yn gallu cynhyrchu 348 megawat (MW), cynnydd o 1% dros 2021, a 6.54 gigawat-awr (GWh) o ynni batri, sef cynnydd o 62% dros 2021. Codwyd ffatri Megapack y cwmni yn Lathrop, California, a (cyhoeddwyd hyn yn Hydref 2021).[24][25][26] Cynhyrchodd y ffatri $3.91 biliwn o refeniw ar gyfer y cwmni yn 2022, cynnydd o 40% dros 2021.[27]

Cynnyrch a gwasanaethau golygu

Mae Tesla Energy'n datblygu, yn adeiladu, yn gosod ac yn gwerthu systemau cynhyrchu ynni solar, cynnyrch storio ynni batri, yn ogystal â chynnyrch a gwasanaethau cysylltiedig eraill i gwsmeriaid preswyl, masnachol a diwydiannol.

Cynnyrch ynni solar golygu

 
Gosod paneli solar

Mae Tesla Energy yn gwerthu ac yn gosod paneli solar traddodiadol ar doeau presennol, y mae'r cwmni'n eu galw'n "systemau solar ôl-osod" (retrofit solar systems) yn hytrach na Llechi Solar.[28] Yn wahanol i gynnyrch eraill y cwmni, nid yw Tesla Energy yn adeiladu ei baneli solar ei hun. Ers Ebrill 2022 roedd y cwmni'n defnyddio paneli solar brand Tesla a adeiladwyd o dan gontract gan QCells.[29] Yn flaenorol, defnyddiodd Tesla baneli Panasonic fel rhan o bartneriaeth rhwng y cwmnïau nes i Panasonic adael y busnes solar yn Ionawr 2021.[30]

Mae'r cwmni'n canolbwyntio'n bennaf ar gwsmeriaid preswyl sy'n prynu'r system gydag arian parod neu gyllid. Mae Tesla Energy hefyd yn cynnig systemau i gwsmeriaid masnachol yng Nghaliffornia.

To Llechi Solar Tesla golygu

 
To Llechi Solar Tesla

Mae Tesla Energy'n cynhyrchu, gosod a gwerthu cynnyrch llechi solar y mae'n ei alw'n "Tesla Solar Roof". Mae llechi solar yn baneli solar bach sy'n ffurfio arwyneb y to cyfan ac yn edrych fel llechi neu deils to.[31] Mae'r cwmni'n honni bod To Solar yn costio llai na gosod to newydd gyda phaneli solar[32][33] a bod y gwydr tymherus y gwneir y teils ohono yn fwy gwydn na theils to safonol.[34] Dadorchuddiwyd y cynnyrch gyntaf yn Awst 2016, ond dim ond ym Mawrth 2020 y llwyddodd Tesla i ddechrau masgynhyrchu'r To Solar.[35]

Mae adroddiad a ryddhawyd ym Mawrth 2023 yn amcangyfrif bod Tesla wedi gosod tua 3,000 o doeau solar yn yr Unol Daleithiau ers lansio'r cynnyrch yn 2016, ymhell o dan y rhagamcanion gwerthiant cychwynnol.[36] Nodwyd mewn adroddiadau eraill bod perchnogion tai sy'n cofrestru ar gyfer y To Solar yn aml yn cael eu rhoi ar restrau aros hir.[37]

Gwrthdröydd Solar Tesla golygu

 
Gwrthdröydd Solar Tesla

Yn Ionawr 2021, cyflwynodd y cwmni ei wrthdröydd (inverter) solar ei hun. Dywed y cwmni fod y Tesla Solar Inverter yn adeiladu ar y dechnoleg a ddatblygodd ar gyfer y Powerwall a gwrthdroyddion o fewn ceir trydan. Fel y Powerwall a cheir Tesla, mae'r gwrthdröydd solar yn gallu derbyn diweddariadau dros y we yn otomatig.[38] Rhoddodd EnergySage, gwefan-canllaw prynwyr solar, sgôr o “dda iawn” i’r Tesla Solar Inverter, gan ganmol y ddyfais ond gan nodi hefyd bod y raddau effeithlonrwydd a'r gwarant o 12.5 mlynedd ar ei hôl hi o gymharu ag arweinwyr y diwydiant.[38][39]

Erbyn 2023 fodd bynnag cyflwynwyd fersiwn newydd o'r gwrthdröydd mewn pedwar maint: 3.8 kW, 5 kW, 5.7 kW, a 7.6 kW AC. Mae gan bob un effeithlonrwydd o 98%.[40]

Mae Powerwall+ Tesla, a gyflwynwyd yn Ebrill 2021, yn cynnwys Gwrthdröydd Solar Tesla integredig.[41]

Storio ynni batri golygu

Tesla Powerwall golygu

 
Dau ddyfais Tesla Powerwall 2 wedi'u "pentyrru" ochr-yn-ochr mewn cartref yn Efrog Newydd

Mae'r Tesla Powerwall yn ddyfais storio ynni batri lithiwm-ion y gellir ei hailwefru ar gyfer storio ynni yn y cartref. Gall Powerwall 2 storio 13.5 cilowat-awr ar gyfer hunan-ddefnydd solar, symud llwyth amser defnydd, a phŵer wrth gefn pan eith y grid i lawr.[42]

Gall system Powerwall gynnwys hyd at 10 Powerwall a gellir cyfuno'r Powerwall + gyda'r Powerwalls traddodiadol. Mewn ardaloedd lle mae codau adeiladu'n caniatáu, gall hyd at dri o'r dyfeisiau hyn gael eu "pentyrru" blaen wrth gefn i gymryd llai o le.

Tesla Megapack golygu

Mae'r Tesla Megapack yn ddyfais storio ynni batri lithiwm-ion y gellir ei hailwefru ar raddfa fawr ac a gaiff ei defnyddio gan fusnes neu gwmni cyfleustodau trydan megis Octopus.

Yn 2023 gallai'r Megapack storio hyd at 3 megawat-awr ac fe'i hadeiladir fel arfer fel rhan o orsaf bŵer storio batri, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer llyfnhau cyflenwad ynni adnewyddadwy, cymorth foltedd, cynhwysedd, cefnogaeth, microgridiau, rheoleiddio amledd, a rheoli foltedd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Terdiman, Daniel (June 25, 2015). "How Tesla's Commercial Batteries Have Changed The Future...For Winemakers?". Fast Company. US. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 24, 2022. Cyrchwyd May 29, 2016.
  2. "2013: Tesla Motors may make its own batteries". Mercury News. November 15, 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 13, 2016. Cyrchwyd August 1, 2016.
  3. Savov, Vlad (November 6, 2013). "Tesla's solution to battery shortages is to build its own 'giga factory'". theverge.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 11, 2017. Cyrchwyd August 1, 2016.
  4. "Tesla Unveils Model 3". Tesla. March 31, 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 9, 2021. Cyrchwyd April 1, 2016.
  5. Johnston, Adam (January 8, 2016). "Tesla Starts Off 2016 By Producing & Delivering Powerwall". CleanTechnica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 8, 2017. Cyrchwyd January 6, 2017.
  6. Randall, Tom (January 4, 2017). "Tesla Flips the Switch on the Gigafactory". Bloomberg.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 4, 2017. Cyrchwyd January 4, 2017.
  7. Daim, Tugrul U.; Meissner, Dirk (2020). Innovation Management in the Intelligent World: Cases and Tools (yn Saesneg). Cham, Switzerland: Springer Nature. t. 234. ISBN 978-3-030-58300-2.
  8. Walsh, Bryan (April 17, 2008). "Green Start-Up Companies: Solarcity". Time Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 11, 2021. Cyrchwyd May 11, 2021.
  9. Kanellos, Michael (February 15, 2008). "Newsmaker: Elon Musk on rockets, sports cars and solar power". cnet (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 29, 2014. Cyrchwyd May 11, 2021.
  10. Smith, Aaron (June 17, 2014). "Elon Musk's sunny plans for Buffalo". CNNMoney. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 9, 2017. Cyrchwyd December 13, 2020.
  11. "2013 Top 250 Solar Contractors". Solar Power World. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 10, 2017. Cyrchwyd April 19, 2015.
  12. "Tesla to buy SolarCity in $2.6 billion stock deal". CNBC (yn Saesneg). 2016-08-01. Cyrchwyd 2023-06-19.
  13. Desjardins, Jeff (April 28, 2018). "Here's what the future of Tesla could look like". Business Insider. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 1, 2018. Cyrchwyd January 22, 2020.
  14. Eisenstein, Paul A. (Aug 2, 2016). "Tesla-SolarCity Deal Promises Vast Synergies: But Can It Deliver?". NBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-05-01.
  15. Bergen, Mark (2016-06-21). "Tesla's stock drove off a cliff after the SolarCity bid was announced". Vox (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-05-01.
  16. "Tesla Has Won Antitrust Approval to Buy SolarCity". Fortune (yn Saesneg). Reuters. August 25, 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 20, 2021. Cyrchwyd May 11, 2021.
  17. Stevens, Tim (August 1, 2016). "Tesla and SolarCity confirm merger in $2.6BN stock deal". CNET (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 9, 2021. Cyrchwyd May 12, 2021.
  18. "Tesla's Acquisition of SolarCity Receives Shareholder Approval" (yn en-US) (Press release). November 17, 2016. https://www.tesla.com/en_GB/blog/teslas-acquisition-of-solarcity-receives-shareholder-approval. Adalwyd May 12, 2021.
  19. Ohnsman, Alan (November 17, 2016). "Early Christmas Present For Elon Musk As Shareholders Bless Tesla-SolarCity Merger". Forbes (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 3, 2017. Cyrchwyd May 12, 2021.
  20. Gray, Chris (July 24, 2020). "Tesla Reports it Tripled Solar Roof Installations in Q2". Roofing Contractor (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 17, 2021. Cyrchwyd May 12, 2021.
  21. Shahan, Zachary (September 13, 2020). "Elon Musk Explains Why Tesla Solar Power Is So Cheap". CleanTechnica (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 3, 2020. Cyrchwyd October 16, 2020.
  22. Martin, Chris (May 24, 2016). "Why Lease When You Can Own? Rooftop Solar Facing Tough Question". Bloomberg News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 10, 2021. Cyrchwyd May 12, 2021.
  23. Asher Hamilton, Isobel; Cooban, Anna; Shalvey, Kevin (May 21, 2021). "Ghosted by Tesla: Customers say Tesla's ultrasleek, expensive Solar Roofs and panels come with nightmare customer service, often leaving them with unanswered calls and emails for months on end". Business Insider (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 23, 2021. Cyrchwyd May 24, 2021.
  24. Ali, Iqtidar (2023-02-01). "Tesla's 40 GWh Megafactory in Lathrop is quickly ramping up production". Tesla Oracle (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-06-20.
  25. Kane, Mark (January 26, 2023). "Tesla Energy Generation And Storage Business: Q4 2022 Results". InsideEVs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-06-19.
  26. Kane, Mark (October 21, 2021). "Tesla Builds 40 GWh Megapack Factory To Increase Volume 10x". InsideEVs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-06-19.
  27. Scully, Jules (2023-01-26). "Tesla 2022 solar installs inched up to 348MW". PV Tech (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-20.
  28. Hanley, Steve (August 12, 2016). "Elon Musk & SolarCity CTO Peter Rive Announce "Solar Roof" (Not "Solar On The Roof")". CleanTechnica (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 12, 2021. Cyrchwyd May 12, 2021.
  29. "Complete review of Tesla solar panels: are they worth it?". Solar Reviews (yn Saesneg). April 14, 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 7, 2022. Cyrchwyd June 26, 2022.
  30. "Japan's Panasonic to end solar panel production - domestic media". Reuters (yn Saesneg). January 31, 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 8, 2021. Cyrchwyd February 8, 2021.
  31. Milman, Oliver (August 19, 2016). "Elon Musk leads Tesla effort to build house roofs entirely out of solar panels". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 20, 2016. Cyrchwyd December 19, 2016.
  32. DiClerico, Daniel (November 2, 2016). "Here's How Much Tesla's New Solar Roof Could Cost". Consumer Reports. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 20, 2016. Cyrchwyd November 20, 2016.
  33. Etherington, Darrell (October 25, 2019). "Tesla's new Solar Roof costs less than a new roof plus solar panels, aims for install rate of 1K per week". TechCrunch (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 4, 2023. Cyrchwyd May 12, 2021.
  34. Greg (April 3, 2021). "Is a Tesla Solar Roof or Regular Roof a Better Buy? We Find Out". That Tesla Channel (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 28, 2022. Cyrchwyd March 30, 2022.
  35. Lambert, Fred (March 16, 2020). "Tesla achieves solar roof production of 1,000 per week, but can they install them?". Electrek (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 8, 2020. Cyrchwyd April 20, 2020.
  36. "Tesla Solar Roof deployments miss expectations". Wood Mackenzie (yn Saesneg). March 30, 2023. Cyrchwyd April 5, 2023.
  37. Mooney, MaryElizabeth (2023-03-30). "Tesla Solar Panels: What You Need To Know | EnergySage". EnergySage Blog (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-06-14.
  38. 38.0 38.1 "What Tesla's Inverter Means For Solar". EnergySage (yn Saesneg). January 14, 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 12, 2021. Cyrchwyd May 11, 2021.
  39. "Tesla 7.6 kW". EnergySage. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 20, 2021. Cyrchwyd July 20, 2021.
  40. "Tesla Solar Inverter Technical Specifications". Tesla, Inc. May 12, 2023. Cyrchwyd June 16, 2023.
  41. "System Design | Powerwall Support". Tesla Energy (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 20, 2021. Cyrchwyd July 20, 2021.
  42. Debord, Matthew (May 1, 2015). "Elon Musk's big announcement: it's called 'Tesla Energy'". Business Insider. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 5, 2015. Cyrchwyd June 11, 2015.

Dolenni allanol golygu