Car trydan cell danwydd a lansiwyd yn niwedd 2014 yw Toyota Mirai ("y dyfodol" yn Japanieg).[1][2] Dadorchuddiwyd y Mirai yn Nhachwedd 2014 yn sioe geir Los Angeles Auto Show. Bydd 700 o'r ceir hyn yn cael eu gwerthu gan Toyota yn 2015.[3]

Y car masnachol cyntaf gyda chell danwydd: y Toyota Mirai.

Dechreuwyd gwerthu'r ceir Mirai yn Rhagfyr 2014 am ¥ 6.7 miliwn (£37,000) gyda Llywodraeth Japan yn cyfrannu ¥2 miliwn (~US$19,600) er mwyn cadw'r pris yn isel.[4] Bydd y farchnad yn cyrraedd Califfornia yng nghanol 2015, a chredir y bydd Llywodraeth y wlad hefyd yn rhoi nawdd ariannol i leihau'r gost i'r cwsmer.[3][5] Ym Medi 2015 rhagwelir y bydd y cwmni'n targedu Ewrop, gan gychwyn gyda gwledydd Prydain, yr Almaen a Denmarc a gwledydd eraill Ewrop yn 2017.[6] Yn yr Almaen bydd y math rhataf o'r car yn €60,000 a TAW.[6]

Manylion y dechnoleg golygu

 
Trawsdorriad: modur trydan ac uned rheoli pwer (tu blaen), y cell danwydd yn y canol a'r batri adewyddadwy uwch ben y tanciau hydrogen yn y cefn.

Defnyddia'r Mirai 'System Cell Danwydd Toyota' (neu'r TFCS), sy'n cynnwys y gell danwydd ei hun a thechnoleg heibrid. Mae'r TFCS yn fwy effeithiol na'r Peiriant tanio mewnol traddodiadol, ac nid yw'n allyrru CO2. Mae ei bwer yn ddigon cryf iddo symud o 0 i 60 milltir yr awr mewn 9 eiliad. Cymerir rhwng 3 a 5 munud i'w lenwi gyda thanwydd a gall deithio am hyd at 300 milltir ar un llond tanc. Ceir botwm gyda 'H2O' arno, sy'n agor llifddor bychan yng nghefn y car, sy'n caniatau i ddŵr gwastraff gael ei arllwys allan o'r car. Crëir y dŵr gwastraff hwn yn yr adweithydd hydrogen-ocsigen oddi fewn i'r gell danwydd.[7] O ran cyfaint, caiff 240ml o ddŵr ei greu pob rhyw ddwy filltir (4 km).[8]

Y stac celloedd tanwydd golygu

Mae'r stac o gelloedd tanwydd yn medru creu uchafswm o 114 kW (153 hp). Mae'r effeithiolrwydd (o greu trydan) wedi gwella'n arw drwy ddefnyddio rhwydi mân 3D fel sianeli ar gyfer y llif. Yn ôl Toyota, dyma'r rhwydi cyntaf o'u bath, ac mae nhw'n cynorthwyo i wasgaru aer (yr ocsigen), sy'n caniatáu i drydan gael ei greu mewn dull cyfartal ar wyneb y celloedd. Mae'r perfformiad felly'n llawer uwch nac unrhyw gar arall - 2.2 gwaith gwell na rhagflaenydd y Mirai, sef y Toyota FCHV-adv. Mae gan bob stac 370 cell, a thrwch o 1.34 mm a phwysau o 102 gram. Maent 160 gwaith yn well nag unrhyw gell danwydd sydd ar werth yn Japan (yn 2014).[9] Gall trosglwyddydd trydan newydd y car (sy'n 13 litr) godi pwer trydanol y car i 650 folt.[9]

Tanciau Hydrogen gwasgedd-uchel golygu

 
Mae'r cysyniad o FCV yn defnyddio tanciau Hydrogen gwasgedd-uchel, fel yr un yma.

Mae gan y Mirai ddau danc hydrogen, sydd wedi'iu creu a'u hatgyfnerthu drwy ddefnyddio tair haen cryf o blastig (nylon 6) gyda charbon ffeibr yn eu cryfhau,[10] a defnyddiau eraill. Fel yr awgryma'r enw, hydrogen sy'n cael eu storio yn y tanciau hyn, hydrogen sydd dan wasgedd o 70 MPa (10,000 psi) ac mae pwysau'r ddau danc gyda'i gilydd yn 87.5 kg (193 pwys).[9][11]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Toyota Unveils 2015 Fuel Cell Sedan, Will Retail in Japan For Around ¥7 Million". transportevolved.com. 2014-06-25. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-29. Cyrchwyd 2014-06-26.
  2. "What is a Fuel Cell Vehicle?". Cyrchwyd 2014-08-06.
  3. 3.0 3.1 John Voelcker (2014-11-18). "2016 Toyota Mirai Priced At $57,500, With $499 Monthly Lease". Green Car Reports. Cyrchwyd 2014-11-19.
  4. Ken Moritsugu (2014-11-18). "oyota to start sales of fuel cell car next month". Associated Press. Fox News Chicago. Cyrchwyd 2014-11-19.
  5. Jeff Cobb (2014-11-17). "Toyota Mirai To Be Priced From $57,500". HybridCars.com. Cyrchwyd 2014-11-19.
  6. 6.0 6.1 "Toyota Ushers In The Future With Launch Of ‘Mirai’ Fuel Cell Sedan" (Press release). Toyota City, Japan: Toyota Europe. 2014-11-01. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2014-12-05. http://arquivo.pt/wayback/20141205173620/http://newsroom.toyota.eu/pressrelease/4124//toyota-ushers-future-launch-mirai-fuel-cell-sedan. Adalwyd 2014-11-18.
  7. Wayne Cunningham (2014-11-19). "Toyota Mirai: The 300-mile zero-emission vehicle". CNET. Cyrchwyd 2014-11-21. The Mirai has a 245-volt nickel-metal hydride battery pack, similar to that in the Camry Hybrid.
  8. "加速力に驚き、ミライの走りを体感 燃料電池車に試乗" [Trial run, surprising accellation and felt FCV MIRAI's running.] (yn Japanese). Asahi Shimbun. 2014-11-20. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-25. Cyrchwyd 2014-11-25.CS1 maint: unrecognized language (link)
  9. 9.0 9.1 9.2 Mike Millikin (2014-11-18). "Toyota FCV Mirai launches in LA; initial TFCS specs; $57,500 or $499 lease; leaning on Prius analogy". Green Car Congress. Cyrchwyd 2014-11-23.
  10. Alperowicz, Natasha (2014-12-08). "Ube Industries' new nylon resin to be used in Toyota fuel-cell vehicles". Chemical Week. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-08. Cyrchwyd 2014-12-09.
  11. Mark Kane (2014-11-18). "Toyota Mirai Fuel Cell Sedan Priced At $57,500 – Specs, Videos". InsideEVs.com. Cyrchwyd 2014-11-19.