Cerbyd trydan batri
Math o gerbyd trydan sy'n ddibynnol ar egni cemegol a storiwyd mewn batri trydan adnewyddadwy ydy cerbyd trydan batri. Defnyddir y byrfodd 'BEV' amdanynt mewn sawl iaith, byrfodd sy'n golygu battery electric vehicle. Maent yn defnyddio modur trydan a rheolydd trydan yn hytrach na pheiriant tanio mewnol sy'n ddibynnol ar betrol neu ddisl i'w yrru. Ceir hefyd gyfuniad o'r ddau dechnoleg - trydan / petrol a gelwir y math hwn yn gerbyd trydan heibrid.
Math | electric vehicle, zero-emissions vehicle, battery-powered device |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir sawl math o gerbyd trydan batri gan gynnwys beics, cerbydau rheilffordd, bysiau, loriau, faniau llaeth a cheir. Rhwng lansio 'Nissan Leaf' yn Rhagfyr 2010 a Rhagfyr 2014 roedd dros 600,000 o gerbydau wedi'u gwerthu ledled y byd, gyda dros eu hanner yn geir.[1][2]
Er mwyn cynyddu'r hyd y daith ar un llond batri o bwer, defnyddir y brec i greu rhagor o drydan; mae siap y cerbyd hefyd yn rheoli ei effeithiolrwydd.
Ceir batri trydan gorau
golyguMae'r tabl canlynol yn dangos snapshot o'r sefyllfa fel ag yr oedd ym Mai 2018:
Safle | Gwneuthuriad | Pris | Delwedd | Peiriant | Model cyflymaf 0-62 mya |
Pellter honedig (milltiroedd) |
Cryfder y batri gorau |
Nifer y drysau (uchafswm) |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1af | Tesla Model S | £64,700-£126,900 | 3 | 2.4 eil. | 300 | 100 kw/awr | 4 | |
Ail | BMW i3 | £34,070-£40,125 | 2 | 6.9 eil. | 190 | 33 kW/a | 5 | |
3ydd | Renault Zoe | £18,745 (+ les misol batri) |
1 | 13.5 | 248 | 41 kw/a | 5 | |
4ydd | Nissan Leaf | £26,490 | 1 | 7.9 eil. | 150 | 30 kw/a | 5 | |
5ed | VW E-Golf | £32,730 | 1 | 10.4 eil. | 186 | 35.8 kw/a | 5 | |
6ed | Tesla Model X | £70,500-£130,000 | 4 | 2.9 eil | 295 | 193+375 kw/a =568 |
5 |
Gweler hefyd
golygu- Cerbyd trydan cell danwydd
- Powerwall - uned i'w osod ar wal y garej i wefru car trydan ayb
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jeff Cobb (2014-12-02). "Nissan Sells 150,000th Leaf In Time for Its Fourth Birthday". HybridCars.com. Cyrchwyd 2014-12-02.
- ↑ Tony Lewis (2014-11-26). "Renault-Nissan sell 200,000 EVs in four years". Just Auto. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-05. Cyrchwyd 2014-11-28.
- ↑ Top Gear: New Car Buyers Guide; BBC; tud. 106.