Cerbyd trydan cell danwydd

Mae cerbyd trydan cell danwydd (Saesneg: Fuel Cell Electric Vehicle neu FCV) yn fath o gerbyd hydrogen sy'n defnyddio cell danwydd i gynhyrchu trydan. Mae'r trydan a gynhyrchir yn y gell danwydd, trwy ocsideiddio hydrogen, yn pweru'r modur trydanol; daw'r ocsigen o'r aer. Gyrrir modur y cerbyd gan y gell danwydd hon; mewn cyferbyniad, mae gan y cerbyd hydrogen beiriant tanio mewnol lle llosgir hydrogen i ryddhau'r egni sy'n gyrru'r cerbyd. Yn 2015 gobeithia'r cwmni ceir Toyota werthu 700 o geir Mirai, sef y car masnachol cyntaf i gynnwys cell danwydd.[1]

Cerbyd trydan cell danwydd
Mathelectric vehicle Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y car masnachol cyntaf: yr Toyota Mirai.
Honda 2008 FCX Clarity.

Disgrifiad a phwrpas

golygu

Mae tair rhan i'r gell danwydd: electrolyt, anod a chathod.[2] Yn fras, mae'r gell yn gweithio'n debyg iawn i'r batri, gan gynhyrchu trydan sydd yn ei dro'n gyrru'r motor. Yn hytrach na chael ei ailwefru, fodd bynnag, ailgyflewnir y gell gan hydrogen.[3] Ceir gwahanol fathau ohonyn nhw gan gynnwys polymer electrolyte membrane (PEM), direct methanol fuel cells, cell danwydd asid ffosfforig, celloedd danwydd carbonad, celloedd danwydd solid oxide, a Regenerative Fuel Cells.[4]

Yn 2009 yn yr U.D.A. roedd cerbydau petrol yn cynhyrchu dros 60% o garbon monocsid y wlad.[5] Mewn cyferbyniad, mae cerbyn trydan cell danwydd hydrogen pur yn allyrru ychydig iawn o lygryddion, gan gynhyrchu'n bennaf dŵr a gwres.[6][7]

Cerbydau lôn

golygu
 
Yr Yamaha FC-me yn Shinkou, Naka-ward, Yokohama Kanagawa, Japan.

Mae'r rhan fwyaf o'r cerbydau sy'n cynnwys cell danwydd yn gerbydau codi a chario nwyddau ee y fforclifft.[8] Yn 2015 cychwynwyd gwerthu ceir masnachol sy'n cynnwys cell danwydd; lansiwyd dros 20 prototeip rhwng 2009 a 2014.[9] Mae'n bosibl y gwelir y canlynol yn cael eu masnachu yn ystod y blynyddoedd nesaf: GM HydroGen4, Honda FCX Clarity, Toyota FCHV-adv a'r Mercedes-Benz F-Cell. Mae Llywodraeth Japan yn rhoi nawdd ariannol i Toyota, sydd ar fin lansio car cell danwydd (y 2015 Hyundai Tucson) a fydd yn costio 69,000,[10] a'r Toyota Mirai ("y dyfodol" yn Japanieg).[11][12] Dadorchuddiwyd y Mirai yn Nhachwedd 2014 yn sioe geir Los Angeles Auto Show. Bydd 700 o'r ceir hyn yn cael eu gwerthu gan Toyota yn 2015.[13]

Awyrennau

golygu
 
Diamond HK36 Super Dimona EC-003 gan Boeing yn 2008

Cynhaliodd ymchwilwyr Boeing nifer o deithiau awyr arbrofol yn Chwefror 2008 mewn awyrennau di-beilot wedi'i bweru gan gell danwydd yn unig a batris ysgafn. Defnyddiai gell danwydd Proton Exchange Membrane (PEM) a batri lithium-ion heibrid i yrru motor trydanol, wedi'i gyplysu i'r llafn wthio (neu "propelar").[14]

Yn 2003, diystyriwyd y batri a hedfanodd awyren wedi'i bweru'n unig gan gell danwydd, o fath FlatStackTM.[15] Yn 2009 hedfanodd awyren o eiddo'r Naval Research Laboratory (NRL’s) awyren Ion Tiger am 23 awr ac 17 munud.[16] Roedd Boeing yn 2001 ar fin lansio'r Phantom Eye sef awyren teithio'n uchel i gynnal ymchwil ac ysbio ar uchter o 65,000 o droedfeddi am hyd at bedwar diwrnod heb ail-lenwi.[17]

Cychod

golygu
 
Christian Machens a'i gwch Yr Almaen yn 2000.

Y cwch trydan cell danwydd cyntaf i ymddangos oedd yr "Hydra" sy'n defnyddio'r system AFC, gyda gyriant o 6.5 kW.

Mae'r gell danwydd yn llawer mwy effeithiol na'r dulliau confensiynol o yrru cerbydau ac yn allyrru llai o halogiad i'r atmosffêr.[18] O'r herwydd mae Gwlad yr Iâ wedi addunedu i addasu eu holl lynges pysgota i ddefnyddio cell danwydd erbyn 2015.

Mae'r llong danfor Math 212 yn cael ei defnyddio gan lyngesau'r Almaen a'r Eidal. "[19] Mae'r llongau'n cynnwys naw cell danwydd o fath PEM gan ddarparu rhwng 30 kW a 50 kW yr un o bwer trydanol.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Millikin, Mike (2014-11-17). "Akio Toyoda announces name of Toyota's new fuel cell sedan in web video: Mirai". Green Car Congress. Cyrchwyd 2014-11-17.
  2. "Basics", Adran Ynni U.D.A.; adalwyd 2008-11-03.
  3. "What Is a Fuel Cell?" Archifwyd 2008-11-06 yn y Peiriant Wayback, The Online Fuel Cell Information Resource; adalwyd 2008-11-03.
  4. "Types of Fuel Cells", Adran Ynni U.D.A; adalwyd 2008-11-03.
  5. "Fuel Cells for Transportation", UAdran Ynni U.D.A; adalwyd 18 Medi 2009.
  6. "Fuel Cell Vehicles", Fuel Economy; adalwyd 2008-11-03.
  7. Cox, Julian. "Time To Come Clean About Hydrogen Fuel Cell Vehicles", CleanTechnica.com, 4 Mehefin 2014
  8. "Hydrogen Fueling Stations Could Reach 5,200 by 2020" Archifwyd 2011-07-23 yn y Peiriant Wayback. Environmental Leader: Environmental & Energy Management News,; adalwyd 2 Awst 2011
  9. "Hydrogen and Fuel Cell Vehicles Worldwide". TÜV SÜD Industrie Service GmbH,; adalwyd 2 Awst 2011
  10. www.slate.com; adalwyd 6 Mehefin 2014.
  11. "Toyota Unveils 2015 Fuel Cell Sedan, Will Retail in Japan For Around ¥7 Million". transportevolved.com. 2014-06-25. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-29. Cyrchwyd 2014-06-26.
  12. "What is a Fuel Cell Vehicle?". Cyrchwyd 2014-08-06.
  13. John Voelcker (2014-11-18). "2016 Toyota Mirai Priced At $57,500, With $499 Monthly Lease". Green Car Reports. Cyrchwyd 2014-11-19.
  14. "Boeing Successfully Flies Fuel Cell-Powered Airplane".. Boeing. Adalwyd 2 Awst 2011.
  15. "First Fuel Cell Microaircraft"
  16. "Fuel Cell Powered UAV Completes 23-hour Flight". Alternative Energy: News.; adalwyd 22 Hydref 2011.
  17. "Hydrogen-powered unmanned aircraft completes set of tests" Archifwyd 2015-10-15 yn y Peiriant Wayback www.theengineer.co.uk.; adalwyd 22 Awst 2011.
  18. "Fuel Cell Basics: Applications" Archifwyd 2011-05-15 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 2 Awst 2011.
  19. "Super-stealth sub powered by fuel cell" Archifwyd 2011-08-04 yn y Peiriant Wayback. Frederik Pleitgen. CNN Tech: Nuclear Weapons. Adalwyd 2 Awst 2011.