Tessie O'Shea
Cantores a cherddores oedd Teresa “Tessie” O'Shea (13 Mawrth 1913 – 21 Ebrill 1995).
Tessie O'Shea | |
---|---|
Ganwyd | 13 Mawrth 1913 Caerdydd |
Bu farw | 21 Ebrill 1995 Leesburg |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, digrifwr, canwr, actor llwyfan, actor ffilm |
Bywyd cynnar
golyguCafodd ei geni yng Nghaerdydd, i James Peter O'Shea, milwr oedd yn fab i ymfudwr Gwyddelig a'i wraig Nellie Theresa Carr, magwyd Tessie O'Shea yn nhraddodiad theatr gerdd Prydeinig. Perfformiodd ar lwyfan mor ifanc a chwe mlwydd oed, a hysbysebwyd fel "The Wonder of Wales". Erbyn ei arddegau roedd hi'n adnabyddus am ei darllediadau poblogaidd ar BBC Radio a fe ymddangosodd ar lwyfan ym Mhrydain a De Affrica. Yn aml roedd yn gorffen ei act drwy ganu a chware'r banjolele yn arddull George Formby. Tra'n ymddangos yn Blackpool yn y 1930au, fe wnaeth y gorau o'i maint corfforol drwy gymryd "Two Ton Tessie from Tennessee" fel ei arwyddgan. Yn y 1940au roedd yn seren cyson yn y London Palladium a fe sefydlodd ei hun fel artist recordio yn y 1950au.[1][2]
Gwobr Tony
golyguYn 1963, fe greuodd Noël Coward rhan y gwerthwr 'sgod a sglods "Ada Cockle" yn arbennig ar gyfer ei sioe gerdd Broadway, The Girl Who Came to Supper. Fe wnaeth ei pherfformiad o ganeuon traddodiadol Cockney swyno'r adolygwyr a roedd yn gymorth iddi ennill Wobr Tony am Actores Nodwedd Gorau mewn Sioe Gerdd.[3]
Yn yr un flwyddyn, roedd O'Shea yn westai ar raglen deledu The Ed Sullivan Show. Roedd yn ddigon poblogaidd fel y dychwelodd yn 1964 ar yr un sioe a'r The Beatles. Fe wnaeth ymddangosiad y ddau ar y rhaglen ddenu y gynulleidfa uchaf yn hanes teledu Americanaidd ar y pryd. Roedd yn aelod o'r cwmni sefydlog ar y sioe adloniant byrhoedlog The Entertainers (1964-1965) ar CBS. Yn 1968, cafodd O'Shea ran yn y ffilm deledu The Strange Case of Dr. Jekyll and Mr. Hyde, ac am y rhan hwn fe'i enwebwyd am Wobr Emmy am Berfformiad Rhagorol gan Actores mewn Rhan Gefnogol mewn Drama.[4]
Fe serennodd O'Seah mewn comedi sefyllfa Prydeinig byrhoedlog As Good Cooks Go, rhwng 1969 a 1970. Fe ymddangosodd yn London Town, The Russians Are Coming, the Russians Are Coming, The Blue Lamp, a Bedknobs and Broomsticks gyda Angela Lansbury. Fe ymddangosodd yn rheolaidd ar sioe adloniant hirhoedlog y BBC, The Good Old Days.
Marwolaeth
golyguBu farw O'Shea o ddiffyg gorlenwad y galon yn 82 mlwydd oed, yn ei chartref yn East Lake Weir, Florida.
Ffilmiau
golygu- London Town (1946)
- The Blue Lamp (1950)
- The Russians Are Coming, the Russians Are Coming (1966)
- Bedknobs and Broomsticks (1971)
Teledu
golygu- The Entertainers (1964-65)
- The Strange Case of Dr. Jekyll and Mr. Hyde (1968)
- As Good Cooks Go (1969-70)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Obituary: Tessie O'Shea". The Independent.
- ↑ "Songs". tessieoshea.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2016-01-05.
- ↑ Whitcomb, Ian (2013). Ukulele Heroes: The Golden Age. Hal Leonard. t. 88. ISBN 9781458416544.
- ↑ "Tessie O'Shea". Television Academy.
Dolenni Allanol
golygu- Tessie O'Shea ar wefan yr Internet Movie Database