Teulu Davies Llandrillo

Hanes Cynnar golygu

Ganwyd Catherine Roberts yng Nghynlas Bach, Llandderfel, Meirionnydd ar 13 Gorffennaf 1828, a'i beddyddio ar 29 Awst 1828. Ei rhieni oedd William Roberts a'i wraig Elizabeth Edwards, Pentre Garthiaen, Llandrillo. Fe briododd hi yng nghapel Salem, Llandrillo ar 21 Tachwedd 1857 gyda Robert Davies, trydydd plentyn Henry Davies a'i wraig Mary Parry, Garthiaen Isaf, Llandrillo. Cawsant bedwar o blant: William ganed tua 1858, Henry ganed 1 Tachwedd 1859, Elizabeth ganed tua 1861 a John, ganed tua 1864. Cofnodir marw Elizabeth yn fuan ar ôl ei geni yng Nghofnodion Eglwys Llandrillo. Cychwynnodd y teulu bach o bump o'r Hen Lechwedd, Llandrillo, gan fynd ag aradr a rhai o gelfi fferm efo nhw, ond ni wyddys os bu i'r celfi gyrraedd yr ochr draw yn ddiogel.

Ymfudo ar y Mimosa golygu

Bu farw John Davies yn blentyn 11 mis oed ar fwrdd llong y Mimosa am 2 o'r gloch y bore ar ddydd Mercher, 28 Mehefin 1865 o'r anhwylder 'hydrocephalus', sef dŵr ar yr ymennydd, a'i gladdu yn y môr am 8 o'r gloch y bore hwnnw.[1] Pythefnos ar ôl i'r Mimosa lanio, bu farw Catherine Davies ar 20 Awst 1865, a'i chladdu yn y twyni ym Mhorth Madryn[2]. Bu farw Robert Davies ar 3 Mai 1968 a gadael y ddau fab William a Henry yn amddifad. Fe'u gadawyd yng ngofal rhyw Farnwr, ond yn dilyn cic gan y forwyn, bu farw William ar 18 Hydref 1872.[3]

Bywyd yn Y Wladfa golygu

Priododd Henry Davies ar 6 Gorffennaf 1882 gydag Anne Williams, a anwyd ar 17 Gorffennaf 1869 i rieni Cymraeg o Durham oedd wedi ymfudo i Batagonia. Fe'u priodwyd gan y Parch W T Morris ym 'Mostyn Farm', Dyffryn Uchaf. Bu eu blynyddoedd cynnar yn y wlad honno yn rhai hapus o dan deyrnasiad Llywodraethwr goleuedig, ond gyda throad y ganrif, gorchmynodd y llywodraeth ym Muenos Aires mai Sbaeneg fyddai'r iaith dysgu yn yr ysgolion, ac y byddai'r Cymry ifanc gwrywaidd yn cael eu gorfodi i hyfforddi gyda byddin Argentina. Tristaodd hyn y gwladfawyr yn fawr, a phan fu llifogydd yn Nyffryn Chubut yn dilyn glawiad trwm ym 1902, gan beri iddynt golli eu cartref, cynydau, anifeiliaid a'r hyn oll y bu Henry Davies a'i deulu yn gweithio'n galed i'w cynnal dros gyfnod o 37 mlynedd, penderfynasant ymfudo i Llewelyn, Saskatchewan yng Nghanada, lle buont yn ffermio. Roeddynt ymhlith sefydlwyr Eglwys Gymreig Llewelyn a dadorchuddiwyd plac yn 2002 er cof am yr ymfudwyr cynnar.

Cafwyd 'gair o ffarwel i aelodau o Ysgol Sabothol 'Y Tabernacl', Trelew ar 11 Mai 1902, ar eu hymadawiad i Canada' gan yr Arolygwr, wyth o athrawon a'r ysgrifenyddes, ac enwir saith o blant Henry ac Anne Davies yn y daflen hon.

Ymfudo i Ganada golygu

Roedd ganddynt ddeg o blant, gan ddathlu eu priodas aur ar 6 Gorffennaf 1932. Roedd Henry Davies yn cael ei adnabod fel 'Harri Davies D.D.' (Dyffryn Draenog), ac yn ogystal â chael ei gydnabod fel amaethwr o'r radd flaenaf, roedd hefyd 'yn un o feirdd blaenaf y Wladfa[4]. Ym 1913, anfonwyd William Edward Davies, mab Henry ac Anne Davies i Ysgol Ramadeg Dolgellau gyda'r bwriad o fynychu Coleg Amaethyddol yng Nghymru. Cyfarfu â'i ddarpar wraig, Jane Eira James yng nghapel Salem, Dolgellau. Rhoddodd y Rhyfel Byd Cyntaf derfyn ar ei fwriad i fynd i Goleg Amaethyddol, a dychwelodd i Ganada i helpu ei dad ar y fferm. Priodwyd William Edward Davies a Jane Eira James yn Winnipeg ar 4 Gorffennaf 1924. Ganwyd iddynt bedair merch, a bu ef farw ar 9 Rhagfyr 1995 yn 100 oed. Yn ôl y Montreal Gazette 10 Tachwedd 1965, dychwelodd tair chwaer a brawd o deulu'r Davies o Ganada i Drelew, yr ardal y bu'n rhaid iddynt ei gadael oherwydd llifogydd difrifol 63 mlynedd ynghynt. Aeth y pedwar ohonynt ar bererindod er cof am eu tad Henry Davies a'r 152 arloeswr arall a deithiodd ar y Mimosa, sef Mrs Catherine Mary Humphreys (82 oed), Mrs Elizabeth Harriet Jones (80 oed), Miss Lydia Davies (76 oed) a'u brawd ieuengaf, William Edward Davies (74 oed)[5].

Darganfod arch golygu

Wrth gloddio ym Mhorth Madryn ym 1995, darganfuwyd arch bren oedd yn cynnwys esgyrn a allai fod yn eiddo i wraig ganol oed, gyda modrwy ar un o'r bysedd, a botwm 'Mother-of-Pearl'. Yn ôl ymchwilwyr, roedd lleoliad yr arch yn cydfynd â manylion siwrnai a dyddiaduron o adeg blwyddyn marwolaeth Catherine Davies, a fu farw yn 38 oed ar 20 Awst 1865, ar ôl cyrraedd i Chubut ar long y Mimosa gyda'r gwladfawyr cynnar. Cadarnhawyd trwy brofion DNA mai gweddillion Catherine Davies oedd y rhain, a bydd gwraig ifanc o Ganada yn teithio i Batagonia i fynychu gwasanaeth ail gladdu esgyrn ei hen hen nain ar 20 Awst 2015.

Troednodyn golygu

  1. Mimosa's Voyages, Susan Wilkinson, tud 89.
  2. Mimosa gan Susan Wilkinson, tud 177
  3. Y Seren 23/7/1955, tud 2
  4. Y Drych, 4 Awst 1932
  5. Montreal Gazette 10 Tachwedd 1965