Llansteffan

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref bychan a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llansteffan. Mae'n gorwedd yn ne'r sir ar aber Afon Tywy, tua 7 milltir i'r de-orllewin o Gaerfyrddin.

Llansteffan
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7689°N 4.3854°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000541 Edit this on Wikidata
Cod OSSN355105 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[2]

Golygfa ar Llansteffan o'r ochr arall i Afon Tywy
Castell, pentref a'r fferi yn Llansteffan, c.1831

Hanes golygu

Yn yr Oesoedd Canol bu Llansteffan yn arglwyddiaeth yng Nghantref Gwarthaf. Codwyd Castell Llansteffan yno gan y Normaniaid ar ddechrau'r 12g i warchod y groesfan fferi strategol ar Afon Tywi. Cafodd ei godi ar safle bryngaer o Oes yr Haearn.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llansteffan (pob oed) (941)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llansteffan) (429)
  
46.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llansteffan) (604)
  
64.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 (Llansteffan) (186)
  
43%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion golygu

Brodor o Lansteffan oedd y casglwr llawysgrifau Cymreig Syr John Williams. Enwir casgliad Llawysgrifau Llanstephan, a gasglwyd gan Syr John, ar ôl y pentref.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Oriel golygu