Teyrnas Galisia

brenhiniaeth yn Iberia

Teyrnas Galisia yw'r enw ar ddau endid a fodolai ym Mhenrhyn Iberia ar wahanol adegau. Teyrnas Germanaidd y bobl Suebi a ymunodd â'r Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol ym 406 oedd y cyntaf: Teyrnas y Suebi. Roedd y deyrnas honno ym mhen gogledd-orllewinol penrhyn Iberia, yn y dalaith a elwir Gallaecia. Meddiannwyd y deyrnas gan y Fisigothiaid ym 585.

Teyrnas Galisia
Enghraifft o'r canlynolteyrnas, gwlad ar un adeg, uned weinyddol hanesyddol Edit this on Wikidata
Daeth i ben1833 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu410 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd411 Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadBrenin Galisia Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddTeyrnas Asturias, Galicia in the Visigothic Kingdom Edit this on Wikidata
OlynyddQ20021558, Capteniaeth Gyffredinol Galisia Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolTeyrnas León, Brenhiniaeth Gatholig, Brenhiniaeth Sbaen (1516-1700) Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas León, Coron Castilia, Sbaen Edit this on Wikidata

Yn yr Oesoedd Canol, pan rannwyd Teyrnas Asturias, a oedd yn olynydd i deyrnas y Fisigothiaid, sefydlwyd endid yn Galisia yn 910. Bu'n sofran am ddwy ganrif: ym 1126 etifeddodd brenin Galisia Alfonso VII Goron Castile ac ym 1128 daeth sir Portiwgal, sef ei rhan ddeheuol, yn Deyrnas sofran; yna dechreuasant y Reconquista tua'r de. Pan rannwyd Coron Castile ym 1157, arhosodd Galisia o fewn Teyrnas Leon. Fodd bynnag, o ran ffurf, parhaodd Teyrnas Galisia fel endid hyd 1833.

Llyfryddiaeth golygu

  • Lopez Carreira, A. (1998): "O Reino de Galiza". A Nosa Terra, Vigo
  • Nogueira, C. (2001): "A Memoria da nación: o reino da Gallaecia". Xerais, Vigo
  • Lopez Carreira, A. (2005): "O Reino medieval de Galicia". A Nosa Terra, Vigo