The Adventures of Sherlock Holmes
Mae The Adventures of Sherlock Holmes yn gasgliad o ddeuddeg stori fer gan Syr Arthur Conan Doyle, a gyhoeddwyd gyntaf ar 14 Hydref 1892.[1]
Clawr yr argraffiad 1af | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Arthur Conan Doyle |
Cyhoeddwr | George Newnes Ltd |
Gwlad | Lloegr |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 14 Hydref 1892 |
Darlunydd | Sidney Paget |
Genre | ffuglen dditectif |
Cyfres | nofelau Sherlock Holmes |
Rhagflaenwyd gan | The Sign of Four |
Olynwyd gan | The Memoirs of Sherlock Holmes |
Cymeriadau | Dr. John Watson, Sherlock Holmes |
Yn cynnwys | A Scandal in Bohemia, The Adventure of the Red-Headed League, A Case of Identity, The Boscombe Valley Mystery, The Five Orange Pips, The Man with the Twisted Lip, The Adventure of the Blue Carbuncle, Y Cylch Brith, The Adventure of the Engineer's Thumb, The Adventure of the Noble Bachelor, The Adventure of the Beryl Coronet, The Adventure of the Copper Beeches |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Disgrifiad
golyguMae'r llyfr cynnwys y straeon byrion cynharaf sy'n cynnwys y ditectif ymgynghorol Sherlock Holmes, a gyhoeddwyd mewn deuddeg rhifyn misol o The Strand Magazine rhwng Gorffennaf 1891 a Mehefin 1892. Mae'r straeon yn y casgliad yn cael eu cyhoeddi yn y llyfr yn yr un drefn ag y cyhoeddwyd hwy yn y cylchgrawn. Dydy'r straeon ddim mewn trefn gronoleg o ran dyddiad gosodiad y storïau. Yr unig gymeriadau sy'n gyffredin i bob un o'r deuddeg yw Holmes a Dr Watson ac mae pob un yn cael eu hadrodd yn arddull naratif person cyntaf gan Watson.[2]
Yn gyffredinol, mae'r straeon yn The Adventures of Sherlock Holmes yn nodi, ac yn ceisio cywiro anghyfiawnderau cymdeithasol. Portreadir Holmes fel un sy'n cynnig ymdeimlad newydd, tecach o gyfiawnder.
Darluniodd Sidney Paget bob un o'r deuddeg stori yn The Strand ac yn y casgliad.
Derbyniad
golyguCafodd y straeon dderbyniad da, a rhoddodd hwb i ffigurau tanysgrifiadau The Strand Magazine, gan annog Doyle i allu mynnu mwy o arian ar gyfer ei set nesaf o straeon. Mae'r stori gyntaf, "A Scandal in Bohemia", yn cynnwys cymeriad Irene Adler. Er mae dyma'r unig stori gan Doyle lle mae Adler yn ymddangos daw hi’n gymeriad amlwg mewn addasiadau modern o Sherlock Holmes, yn gyffredinol fel gwrthrych cariad Holmes. Cynhwysodd Doyle pedair o'r deuddeg stori o'r casgliad hwn yn ei ddeuddeg hoff stori Sherlock Holmes, gan ddewis "Y Cylch Brith" fel y gorau oll.[3]
Storïau
golygu- A Scandal in Bohemia (Mehefin 1891)
- The Red-Headed League (Awst 1891)
- A Case of Identity (Medi 1891)
- The Boscombe Valley Mystery (Hydref 1891)
- The Five Orange Pips (Tachwedd 1891)
- The Man with the Twisted Lip (Rhagfyr 1891)
- The Adventure of the Blue Carbuncle (Ionawr 1892)
- The Adventure of the Speckled Band (Chwefror 1892) (Addaswyd i'r Gymraeg fel Y Cylch Brith gan Eurwyn Pierce Jones) [4]
- The Adventure of the Engineer's Thumb (Mawrth 1892)
- The Adventure of the Noble Bachelor (Ebrill 1892)
- The Adventure of the Beryl Coronet (Mai 1892)
- The Adventure of the Copper Beeches (Mehefin 1892)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Copi o'r llyfr ar Internet Archive adalwyd 22 Chwefror 2020
- ↑ The Adventures of Sherlock Holmes Encyclopædia Britannica adalwyd 22 Chwefror 2020
- ↑ 12 best Sherlock Holmes stories handpicked by creator Sir Arthur Conan Doyle adalwyd 22 Chwefror 2020
- ↑ Doyle, Arthur Conan; Jones, Eurwyn Pierce. Cylch Brith, Y. , Eurwyn Pierce,. Tal-y-bont. ISBN 978-1-84771-954-6. OCLC 888468067.CS1 maint: extra punctuation (link)