The Cambro-Britons

Drama hanesyddol gan James Boaden (1762–1839) yw The Cambro-Britons (cyhoeddwyd yn 1798), sy'n ymwneud â rhyfeloedd Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru, i amddiffyn Cymru rhag ymosodiadau'r Brenin Edward I o Loegr yn ail hanner y 13g. Sais oedd yr awdur ond mae'r ddrama yn nodedig am ei phortread o'r Tywysog Llywelyn fel arweinydd gwladgarol yn ceisio amddiffyn annibyniaeth Cymru yn hytrach na gwrthryfelwr penboeth, ac o'r Cymry fel pobl dewr, ffyddlon ac anrhydeddus, a hynny yn gwbl groes i'r bortread arferol ohonynt yn llenyddiaeth Lloegr cyn hynny.[1] Roedd "Cambro-Briton" yn enw gweddol gyffredin am y Cymry gan hynafiaethwyr y cyfnod.

The Cambro-Britons

Mae'n ddrama mewn tair act. Cafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn y Theatre Royal, Haymarket, Llundain ar 21 Gorffennaf, 1798.

Mae'n bosibl fod y gerdd ramantaidd The Bard gan Thomas Gray, sy'n ymwneud â chwedl 'Cyflafan y beirdd', yn ddylanwad ar Boaden.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
  2. (Saesneg) Stephens, John Russell. "Boaden, James (1762–1839)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/2730.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.